Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n cyhoeddi rhybudd yn dilyn sawl galwad 999 ffug i ystafell reoli'r heddlu dros y dyddiau diwethaf.
Derbyniwyd un alwad ddydd Iau diwethaf (12 Hydref), lle credir fod rhywun wedi ffonio o flwch ffôn yn ardal Dyffryn Ardudwy yng Ngwynedd. Cafodd y galwr eu clywed yn honni eu bod wedi colli eu condomau cyn rhoi'r ffôn i lawr. Fe wnaethon nhw ffonio ddwywaith wedyn, gan roi'r ffôn i lawr bob tro. Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y galwadau hyn gysylltu hefo ni gan ddyfynnu cyfeirnod A164130.
Derbyniwyd galwad bellach ar ddydd Sul 15 Hydref o gyfeiriad yn Amlwch, Môn, lle cafodd rhywun eu clywed yn gweiddi: "helpwch fi, mae ganddo fo gyllell, mae o'n mynd i'n lladd i." Gwnaeth hyn ennyn ymateb ar raddfa fawr gan yr heddlu yn yr ardal, hefo timau arbenigol yn cael eu hanfon. Sefydlwyd wedyn mai galwad ffug oedd hon, hefo'r bobl yn gysylltiedig yn cael eu hadnabod.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Llinos Davies: "Mae gwneud galwad ffôn ffug i wasanaeth brys yn drosedd a gall y gosb fod yn ddifrifol iawn.
"Nid yn unig maen nhw'n effeithio ar ein gallu i ateb galwad frys go iawn, maen nhw hefyd yn gwastraffu gwasanaethau hanfodol ac fe allen nhw beryglu bywydau pobl eraill drwy ddargyfeirio gwasanaethau brys oddi wrth y rhai hynny mewn angen.
"'Da ni'n annog rhieni gael sgyrsiau hefo pobl ifanc ynghylch canlyniadau difrifol galwadau ffug er mwyn helpu lleihau galw yn ein hystafell reoli ni wrth i ni wynebu misoedd y gaeaf."