Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwech o bobl wedi cael eu carcharu heddiw ar ôl i ddyn bregus gael ei drywanu mewn ymosodiad gwyllt yn y Rhyl.
Aethpwyd â'r dioddefwr 21 oed i'r ysbyty hefo anafiadau a oedd yn bygwth ei fywyd ar ôl iddo gael ei drywanu sawl gwaith. Digwyddodd hyn ar Crescent Road, Y Rhyl, yn ystod oriau mân 9 Ebrill eleni.
Heddiw (dydd Iau, 12 Hydref) cafodd pedwar dyn a dwy ddynes eu dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon yn dilyn ymchwiliad i'r ymosodiad.
Cafodd Llewelyn Lewis Stephen White, 18, o Faes Cwm, Y Rhyl, a oedd wedi cyfaddef clwyfo bwriadol orchymyn i dreulio naw mlynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc. Derbyniodd hefyd ddedfryd o 16 mis am feddu cyllell ac atal cwrs cyfiawnder. Bydd yn treulio'r ddau gyfnod ar yr un pryd.
Gwnaeth Paige Roberts, 19, a Sharon Roberts, 37, ill dwy o Berthlog, Trelogan, Sir y Fflint, gyfaddef cyflawni affräe ac fe gafodd y ddwy eu carcharu am ddwy flynedd.
Carcharwyd Liam Robert Babbs, 24, o Marsh Road, Y Rhyl, am ddwy flynedd a mis ar ôl cyfaddef atal cwrs cyfiawnder.
Gwnaeth Frederick White, 19, o Sandringham Avenue, Y Rhyl, hefyd gyfaddef atal cwrs cyfiawnder. Derbyniodd ddedfryd o 16 mis i'w dreulio mewn sefydliad troseddwyr ifanc. Cafodd Callum Parker, 18, o St David's Square, Y Rhyl, hefyd ddedfryd o 12 mis ar ôl cyfaddef i'r un drosedd.
Cafodd y chwech orchymyn atal am ddeg mlynedd o ran cysylltu hefo'r dioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rebecca Hughes sef yr Uwch Swyddog Ymchwilio: “Buaswn i'n hoffi diolch i'r gymuned leol a'r tystion a ddaeth ymlaen am helpu'r tîm ymchwilio gysylltu trefn digwyddiadau oriau mân 9 Ebrill.
"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth, sydd wedi arwain at garcharu'r rhai hynny oedd yn gysylltiedig. Dwi'n croesawu'r dedfrydau a osodwyd gan y llys heddiw.
"Mi fuaswn i'n hoffi sicrhau'r cyhoedd ein bod ni'n canolbwyntio ar wneud ein cymunedau'n llefydd saffach drwy ymdrin yn gadarn hefo'r rhai hynny sy'n tueddu bod yn dreisgar a defnyddio arfau. Ni wnawn ni oddef yr ymddygiad ffiaidd hwn."
Fe ychwanegodd DC Jayne Marsden: "Mae'r dioddefwr wedi bod yn ddewr yn helpu'r ymchwiliad ar ôl dioddef anafiadau sylweddol a oedd yn bygwth ei fywyd. Fe wnaeth ei ddewrder sicrhau fod y rhai oedd yn gyfrifol wedi cael dod o flaen eu gwell."