Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Rhingyll Gwirfoddol Kristian Ferns wedi gwirfoddoli hefo Heddlu Gogledd Cymru am dair blynedd ac wedi cyrraedd statws Rhingyll Gwirfoddol Dros Dro ym mis Mai 2022.
Dros y cyfnod hwn mae Kristian wedi cyflawni sawl dyletswydd gwahanol yn cynnwys Diwrnod Effaith Traffig, patrolau economi nos, cadernid yn ystod Storm Eunice ac wedi cyflawni dyletswyddau ymateb gan ymdrin â galwadau 999.
Wythnos diwethaf, cymerodd Kristian rhan mewn cwrs Arweinyddiaeth Gynhwysol. Hwn ydy'r buddsoddiad mwyaf yn pymtheg mlynedd diwethaf gan Heddlu Gogledd Cymry i ddatblygu arweinyddiaeth. Cafodd y cwrs ei gynnal dros 4 diwrnod yn canolbwyntio ar ddiwylliant y gweithle, lles a chyflawniad staff. O dan arweiniad tîm o hwyluswyr, datblygodd y cynrychiolwyr y wybodaeth a'r sgiliau er mwyn creu amgylchfyd pobl a chynorthwyol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y swyddogion, staff a gwirfoddolwyr maent yn eu rheoli.
Swydd Kris ydy Rheolwr Cymorth Mewn Gwasanaeth Arfordirol i'r RNLI gan ymdrin hefo cydymffurfiaeth, sicrwydd a phroblemau peirianneg. Mae'r RNLI yn falch o gynorthwyo Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr, gan roi 5 diwrnod o absenoldeb taledig i'r rhai hynny sy'n gwirfoddoli hefo'r Heddlu Gwirfoddol. Oherwydd hyn, gall Kristian fynychu'r cwrs Arweinyddiaeth Gynhwysol a mynd â'r mewnwelediadau a gafodd yn ôl i'w weithle o ganlyniad. Nid yn unig bydd yn ei helpu yn ei rôl fel Rhingyll Gwirfoddol, ond yn ei waith bob dydd hefyd!
Dywedodd Darren Veevers, Arweinydd Peirianneg a Chyflawni Rhanbarthol yr RNLI “Mae elusen yr RNLI yn falch o alluogi cefnogi Kris yn ei rôl wirfoddol hefo’r Heddlu Gwirfoddol. Hefo gwirfoddolwyr wrth galon ein sefydliad ni, ‘da ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl yn rhoi o’u hamser. Mae’r sgiliau mae Kris wedi’i fagu eisoes yn gallu cael eu trosglwyddo ac yn dod â manteision i’r RNLI. ‘Da ni’n ddiolchgar am hynny.”
Mae plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr yn rhywbeth cadarnhaol i Swyddogion Gwirfoddol, eu cwmnïau, Heddlu Gogledd Cymru, a'n cymunedau lleol. Mae 450 o gwmnïau wedi cofrestru hefo Plismona hefo Cefnogaeth Cyflogwyr ledled y DU, o'r RNLI, British Airways, TESCO ac ASDA i'r Admiral Group PLC a CGI IT UK LTD.
Allwch eich cumni chi gynorthwyo’r cynllun Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr? Cysylltwch a [email protected] i ddarganfod fwy o wybodaeth.
Mae ein ffenest ymgeisio ar gyfer Swyddogion Gwirfoddol ar agor rŵan, ewch draw i’n gwefan i wybod mwy a sut i ymgeisio – Special constable | North Wales Police