Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn disgwyl nosweithiau mwy prysur nag arfer a thra bod hyn yn gyfnod o hwyl i lawer, gall fod yn gyfnod pryderus i eraill yn y gymuned.
Bob blwyddyn mae'r heddlu yn gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol, felly mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i gymryd diddordeb yng nghynlluniau eu plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol heb achosi problemau yn y gymuned. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith tymor hir ar fywyd person ifanc, ac ar y rhai sy'n cael eu heffeithio gan eu hymddygiad.
Mae #YmgyrchBang yn ymgyrch flynyddol rhwng partneriaid ac awdurdodau lleol sy’n helpu lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol dros yr wythnosau sydd i ddod.
Er mwyn paratoi ar gyfer #YmgyrchBang mae swyddogion o Dimau Plismona’r Gymdogaeth ar draws Gogledd Cymru wedi bod yn ymgysylltu gyda phobl mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid yn trefnu gweithgareddau gyda help arian o Ymddiriedaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT).
Bydd gwaith dros y cyfnod hefyd yn cynnwys hyrwyddo negeseuon allweddol am fod yn ystyrlon a pharchus i bob aelod o'r gymuned gan atgyfnerthu na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef, yn ogystal â negeseuon diogelwch i blant.
Mae perchnogion siopau hefyd yn cael eu hannog i beidio â gwerthu blawd ac wyau i blant hyd at 31 Hydref.
Dywedodd Geraint Richards o Heddlu Gogledd Cymru "Gobeithio y bydd pobl yn ymddwyn yn gyfrifol ar Noson Tân Gwyllt eleni fel y maent wedi gwneud ar nosweithiau blaenorol. Gwyddom fod y mwyafrif o bobl yn mwynhau'r cyfnod hwn mewn modd call ac nid ydym yn ceisio sbwylio eu hwyl ond yn anffodus mae lleiafrif yn gweld y dathliadau yn ffordd o droseddu a gweithredu'n wrthgymdeithasol. Rydym am weithio gydag ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.
“Mae ein timau ac ein partneriaid yn gweithio ar draws yr ardal - yn helpu addysgu, sicrhau a chadw ein cymunedau yn ddiogel. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf cofrestrwch er mwy derbyn Rhybuddion Cymunedol.
Hafan - Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru
Mae'r galw ar y gwasanaethau yn codi yn sylweddol yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Er mwyn cadw ein llinellau yn glir ar gyfer y mwyaf anghenus gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio'r dull cysylltu mwyaf priodol.
Ychwanegodd yr Arolygydd Richards: “Rydym wedi cynllunio posteri ar gyfer pobl i ddangos yn eu ffenestri, felly lawrlwythwch rhain o'n gwefan a'u hargraffu ar gyfer perthnasau a chymdogion hŷn. Os gwelwch boster yn cael ei ddangos yn gofyn i blant sy'n chwarae cast neu geiniog i beidio â galw, parchwch eu dymuniad i gael llonydd."
Mwynhewch Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddiogel. Cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd.
Mae rhagor o wybodaeth am PACT ar gael ar drwy: Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (pactnorthwales.co.uk)
81876 Halloween Callers Poster.pdf
81876 Halloween No Callers Poster.pdf
81877 Halloween Egg Poster.pdf
Halloween Colouring Sheet 1.pdf
Halloween Colouring Sheet 2.pdf
Halloween Colouring Sheet 3.pdf