Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros y ddau fis diwethaf, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth hefo Arriva ac elusen Bus Users UK er mwyn codi ymwybyddiaeth am droseddau casineb anabledd. Treuliodd swyddogion o'r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Thimau Cymdogaethau Diogelach yn ardaloedd Sir Ddinbych a Chaernarfon amser ar fysiau lleol yn siarad hefo teithwyr am eu profiadau o droseddau casineb.
Dywedodd PC Richard Fishlock o'r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: "Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi helpu dioddefwyr trosedd casineb sef yr hyn 'da ni'n neud hefo'n partneriaid yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr a gwasanaethau cymorth eraill.
Fe wnawn ni bob dim a allwn ni er mwyn taclo troseddwyr ac ymddygiad troseddol. “'Da ni'n cymryd trosedd casineb o ddifrif ac yn gwneud bob dim er mwyn gwneud yn siŵr fod troseddwyr yn cael eu dwyn yn atebol ac yn dod o flaen eu gwell."
Cafodd defnyddwyr bws y cyfle hefyd i gwblhau arolwg byr yn sôn am eu profiadau o droseddau casineb yn eu hardal leol. Bydd yr adborth defnyddiol hwn yn cael ei gasglu gan uwch swyddogion ym mhob ardal er mwyn eu helpu nhw ddeall effaith troseddau casineb yn well a sut orau i'w daclo.
Mae hyn yn cyd-fynd hefo Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb. Mae hon yn wythnos o weithredu genedlaethol er mwyn annog awdurdodau lleol, partneriaid a chymunedau a effeithir gan droseddau casineb er mwyn cydweithio i roi diwedd ar y drosedd. Ewch i wybod mwy am Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb drwy chwilio #NationalHCAW ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ewch ar y wefan – Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb – Nationalhcaw