Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi'i garcharu heddiw am wyth mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn bachgen yn eu harddegau.
Ymddangosodd Andrew Mark Bell, 60, o Blas Issa, Penycae, Wrecsam yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Llun 16 Hydref) lle cafodd ei ddedfrydu am naw ymosodiad rhywiol dros gyfnod o dwy flynedd.
Rhaid i Bell hefyd gofrestru fel troseddwr rhyw am oes. Fe wnaeth hefyd dderbyn gorchymyn atal amhenodol o ran y dioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Hargrave o Dîm Amethyst Gogledd Cymru: "Mae'r dioddefwr yn yr achos hwn wedi bod yn hynod ddewr wrth riportio'r materion hyn wrth yr heddlu.
"Roedd eu penderfyniad i wneud yn siŵr fod y troseddwr yn dod o flaen ei well wedi'i gymell gan ddyhead i wneud yn siŵr nad ydy pobl eraill mewn sefyllfa o gael eu cam-drin.
"Ni all yr un ddedfryd ddadwneud y niwed sydd wedi'i achosi. Ond dwi'n gobeithio fod y ddedfryd heddiw yn dod â rhywfaint o gyfiawnder a chymod i'r dioddefwr.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau yn ymroddedig i ddod â throseddwyr rhyw o flaen eu gwell. Buaswn yn annog unrhyw un sy'n dymuno riportio am drosedd rywiol i ddod ymlaen a siarad hefo ni."
Mae tîm Amethyst Heddlu Gogledd Cymru yn cynnwys swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig er mwyn helpu dioddefwyr drwy ymchwiliadau o'r natur hon.
Mae'r tîm yn gweithio'n agos hefo'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) er mwyn darparu cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol cyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth arbenigol.
Gallwch fynd ar ein gwefan yma am fwy o wybodaeth ar sut i geisio help – Treisio, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu Gogledd Cymru