Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 25 oed wedi'i garcharu heddiw ar ôl iddo fo ymosod ar ddynes mewn gwesty.
Dedfrydwyd Geoffrey Edward Hallet, o Rondda Cynon Taf, yn Llys y Goron, Caernarfon heddiw (dydd Gwener, 13 Hydref) ar ôl iddo fo gyfaddef clwyfo, achosi niwed corfforol gwirioneddol a difrod troseddol.
Wrth aros mewn gwesty yng Nghaernarfon ar ddydd Sul 6 Chwefror llynedd, fe wnaeth Hallet ddyrnu'r dioddefwr yn ei hwyneb a thorri ei ffôn yn fwriadol, cyn ymosod arni'r eildro pan wnaeth hi drio gadael yr ystafell.
Heddiw, fe wnaeth barnwr ei ddedfrydu i flwyddyn a 10 mis yn y carchar. Fe wnaeth hefyd dderbyn gorchymyn atal.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Eifion Patchett: "Dwi'n canmol y dioddefwr am ei dewrder yn ystod yr ymchwiliad.
"Mae ei dewrder hi ar ôl profiad trawmatig wedi arwain at ganfod Hallet yn euog heddiw.
"Buaswn i'n hoffi diolch i'r aelodau hynny o'r cyhoedd a wnaeth ymyrryd a diogelu'r dioddefwr rhag niwed pellach.
"'Da ni wedi ymroi mynd ar ôl unrhyw un sy'n cyflawni trais yn erbyn merched a genethod ac fe wnawn ni ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."
Mae Ymgyrch Unite yn ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.