Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 33 oed wedi cael ei garcharu am dros ddwy flynedd ar ôl ymosod yn dreisgar ar ddynes yn ei chartref yn Rhuthun.
Ymddangosodd William James Machin, o River Street, y Rhyl yn Llys y Goron Caernarfon heddiw (dydd Iau, 19 Hydref) ar ôl iddo fo gyfaddef mygu bwriadol, ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol a difrod troseddol.
Cafodd Machin, a oedd ar fechnïaeth hefo amodau i beidio cysylltu hefo'r dioddefwr ar adeg y digwyddiad, ei ddedfrydu heddiw i ddwy flynedd a mis o garchar.
Digwyddodd hyn brynhawn dydd Sul, 6 Awst, pan wnaeth Machin ddyrnu'r dioddefwr yn y wyneb cyn ei chodi o'r llawr ac ymosod ymhellach arni.
Ar ôl rhoi clustog dros wyneb y dioddefwr ac wrth iddi gael trafferth anadlu, aeth ymlaen i beri difrod sylweddol i'w heiddo.
Cafodd ei arestio 15 munud wedyn ac fe gafodd ei remandio yn y ddalfa tan ei ddedfrydu heddiw.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio sef y Ditectif Gwnstabl Mike Taggart: "Fel hefo bob achos cam-drin domestig, bu ymchwiliad trwyadl yn dilyn y digwyddiad cywilyddus hwn. Sicrhawyd canlyniad cadarnhaol a dedfryd heddiw.
"Roedd yr achos hwn yn cynnwys ymosodiad treisgar parhaol ar ddioddefwr bregus. Dwi'n ei chymeradwyo hi am ei dewrder hynod drwy gydol yr ymchwiliad.
"Os ydych chi neu rywun 'da chi'n 'nabod yn dioddef trais domestig ac yn gallu cael y dewrder i ddod ymlaen, cysylltwch hefo ni. 'Da ni hefo swyddogion ymroddedig sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig er mwyn eich helpu chi.
"'Da ni wedi ymroi mynd ar ôl unrhyw un sy'n cyflawni trais yn erbyn merched a genethod ac fe wnawn ni ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Mae Ymgyrch Unite yn ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru