Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch er mwyn dathlu a chodi ymwybyddiaeth am ddyslecsia yn cael ei chefnogi gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Wythnos Genedlaethol Dyslecsia, sy’n digwydd rhwng 2 a 7 Hydref hefo'r nod o godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr wrth chwalu'r stigma a darparu adnoddau er mwyn helpu unigolion sydd hefo dyslecsia'n well.
Mae ymchwil yn awgrymu fod hyd at 10% o’r boblogaeth hefo dyslecsia. Mae o’n gyflwr niwrolegol sydd gan amlaf yn effeithio'r gallu i ddarllen, ysgrifennu, rhifedd a sillafu.
Fel cyflyrau eraill megis dyspracsia, ADHD ac awtistiaeth mae dyslecsia yn dod o dan ymbarél niwroamrywiaeth ac mae wedi gwreiddio yng ngwahaniaethau gwahanol yr ymennydd.
Yn gynharach eleni, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru achrediad Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (Lefel 3) – y lefel achrediad uchaf am ei waith o greu sefydliad sy’n gyfartal ac yn gynhwysol ar gyfer ei holl weithwyr.
Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun gwirfoddol gan y Llywodraeth sydd wedi ei lunio er mwyn annog sefydliadau recriwtio a chadw pobl anabl.
Mae Lefel 3 yn cadarnhau fod Heddlu Gogledd Cymru'n cynnig o leiaf un cam er mwyn cael y bobl iawn ar gyfer ein busnes ac o leiaf un cam er mwyn cadw a datblygu ein pobl.
Mae gan yr Heddlu sawl dull o helpu mewn lle ar gyfer ei swyddogion, staff a gwirfoddolwyr. Mae addasiadau rhesymol i'r gweithle yn dibynnu'n fawr iawn ar yr unigolyn.
Nid oes rhywbeth addas i bawb. Serch hynny, mae enghreifftiau'n cynnwys:
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Fel sefydliad mawr, 'da ni'n falch o greu diwylliant dysgu, lle mae pobl sydd hefo dyslecsia yn cael eu croesawu.
“Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n gwerthfawrogi gwahaniaethau unigol – gan feithrin cryfderau, galluoedd a doniau er mwyn galluogi unigolion flodeuo.
“'Da ni'n cydnabod doniau unigryw cydweithwyr sydd hefo dyslecsia. Ond 'da ni hefyd yn annog recriwtio o gronfa ehangach sy’n adlewyrchu ystod eang y bobl a'r cymunedau 'da ni'n eu gwasanaethu.
“Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 3, 'da ni'n falch o fod ar y blaen o ran cynnwys anabledd. Fel cyflogwr mawr yn y rhanbarth, mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein gweld fel gyrfa i bawb. 'Da ni ymrwymo ymgysylltu hefo'n holl gymunedau a darparu’r help cywir i bawb sydd ei angen. Dim ond trwy gydweithio y gallwn ni greu sefydliad a chymdeithas sy’n cynnwys pawb.”
Derbyniodd PC Kyle Young, sydd newydd ymuno hefo Heddlu Gogledd Cymru ac sydd o dan hyfforddiant ar hyn o bryd, ddiagnosis dyslecsia sawl blwyddyn yn ôl.
Dywedodd: “Mae bod hefo dyslecsia wedi rhoi safbwynt gwahanol i mi o ran cwestiynau a phroblemau nad ydy pobl eraill efallai'n weld bob amser. Dwi'n prosesu gwybodaeth yn wahanol.
"Hefo 14 mlynedd o brofiad milwrol, dwi wedi cael help. Serch hynny, dwi hefyd wedi cael profiadau drwg achos bod fy sillafu'n cael ei weld yn llai safonol na sillafu fy nghyfoedion i.
"Efallai nad ydyn ni sydd hefo dyslecsia yn gweithio orau mewn system hen ffasiwn fel ysgol. Ond pan 'da ni'n cael dysgu a datblygu mewn ffordd sydd o fantais i ni, 'da ni'n gallu creu gwaith safonol iawn.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at fy nyfodol hefo Heddlu Gogledd Cymru. Dwi'n ddiolchgar am yr help dwi'n ei gael o hyd."
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Cymdeithas Dyslecsia Prydain: Cymdeithas Dyslecsia Prydain (bdadyslexia.org.uk)
Gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn hashnodau #DAW23 #UniquelyYou.
Ydy'r stori hon wedi'ch ysbrydoli chi?
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymroi recriwtio pobl o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau a'u helpu nhw symud ymlaen yn eu gyrfaoedd o fewn y teulu plismona.
Fe wnawn ni roi help i'r rhai sydd ei angen. Mae gweithredu positif yn gadael i ni roi cyfle cyfartal i bawb yn gyfreithiol ymgeisio am yrfa o fewn plismona.
Am fwy o wybodaeth ar yr help gweithredu positif sydd ar gael, ewch ar: Gweithredu Positif | Heddlu Gogledd Cymru
Am gyfleoedd gyrfa hefo ni, ewch ar: Gyrfaoedd | Heddlu Gogledd Cymru