Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 26 oed wedi cael ei garcharu heddiw am droseddau trais domestig.
Ymddangosodd Niall Lewis, o Ffordd Brannan, Alltami ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Iau, 26 Hydref). Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thair mis ar ôl cael ei ganfod yn euog o niwed corfforol gwirioneddol a chyfaddef trosedd o dagu nad oedd yn angheuol.
Digwyddodd hyn yng nghartref y dioddefwr ar fore 26 Rhagfyr llynedd.
Yn dilyn cweryl, gwnaeth Lewis ei gwthio i'r llawr, cyn rhoi ei ddwylo rownd ei gwddf a gafael y dynn, hyd nes nad oedd hi'n methu anadlu.
Er i'r dioddefwr geisio dianc, parhaodd ymddygiad ymosodol a thrais Lewis hyd nes iddi lwyddo dianc o'r tŷ a galw am help.
Cafodd ei arestio a'i remandio wedyn yn y ddalfa tan ei ddedfrydu heddiw.
Derbyniodd Lewis, a oedd wedi'i ganfod yn euog o'r blaen o guro'r dioddefwr ac achosi difrod troseddol, orchymyn atal am bum mlynedd hefyd yn erbyn y dioddefwr heddiw.
Dywedodd Ann Parry, Ymchwilydd Sifil a oedd yn swyddog ymchwilio ar yr achos: "Dwi'n cymeradwyo dewrder a chryfder y dioddefwr hwn am ddod ymlaen ac am ddangos cymaint o ddewrder drwy gydol yr ymchwiliad, sydd wedi arwain at ganlyniad heddiw.
"'Da ni wedi ymroi sicrhau fod adroddiadau am drais yn erbyn merched a genethod yn cael eu hymchwilio'n drwyadl ac fe wnawn ni barhau i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell. .
"Os ydych chi neu rywun 'da chi'n 'nabod yn dioddef trais domestig ac yn gallu cael y dewrder i ddod ymlaen, cysylltwch hefo ni. 'Da ni hefo swyddogion ymroddedig sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig er mwyn eich helpu chi."
Mae Ymgyrch Unite yn ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru