Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch wythnos o hyd sy’n cydnabod gwaith staff a swyddogion mewn canolfannau cyfathrebu ar draws y byd.
O ddydd Llun 23 Hydref hyd at ddydd Sul 29 Hydref, mae Wythnos Ryngwladol Ystafelloedd Rheoli yn dathlu’r timau sy’n defnyddio eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad er mwyn cael yr adnoddau hanfodol sydd eu hangen, gan hefyd roi llais cysurus i’r rhai sydd ei angen.
Mae’r Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd wedi’i rhannu efo’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac mae wedi’i lleoli yn Llanelwy. Mae’n rhan bwysig iawn o’r gwasanaethau brys gyda’r trinwyr galwadau yn bwynt cyswllt cyntaf i nifer sydd eu hangen.
Dros y tri mis diwethaf mae staff arbenigol wedi derbyn dros 30,400 o alwadau 999, bron i 60,000 o alwadau ar y llinell di-frys, dros 6,000 o sgyrsiau gwe a 15,000 o negeseuon e-bost.
O ddelio â phobl ar goll, pobl mewn argyfwng iechyd meddwl sy’n bygwth hunanladdiad, adroddiadau o ymosodiadau difrifol a threisgar, gwrthdrawiadau traffig ffordd angheuol, ac ar adegau, yn cael eu sarhau ar lafar – mae’r Ganolfan Gyfathrebu yn hynod o brysur.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Dros Dro, Mark Williams o Heddlu Gogledd Cymru: “Ein swyddogion a staff ni yn yr ystafell reoli ydy’r arwyr tawel, yn cydweithio er mwyn chwarae rhan allweddol o ran diogelwch cymunedau ar draws gogledd Cymru.
“Ein timau ydy pwynt cyswllt cyntaf nifer o bobl sydd angen ein cymorth, yn fregus neu wedi dioddef trosedd. Sgiliau’r staff sy’n rheoli’r alwad gyntaf gan dawelu meddwl y galwr a chymryd y manylion a’r ffeithiau sydd eu hangen er mwyn galluogi’r ymateb iawn i’r digwyddiad.
“’Da ni’n gwbl gefnogol o’r wythnos yma sy’n rhoi cyfle i ni nodi a diolch i’n timau, sy’n gwneud gwaith arbennig, yn gyhoeddus. ‘Da ni’n croesawu codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a ‘da ni’n falch o gael y gefnogaeth yma gan drefnwyr yr ymgyrch.
“Mae ystafell reoli'r gwasanaethau brys yn lle unigryw i weithio. ‘Dio byth yn stopio ac mae’n her gyson lle mae’n cymryd rhywun arbennig i weithio ynddi. Rhywun cadarn sy’n dangos empathi, sy’n gallu meddwl yn sydyn a rheoli sefyllfa sy’n gallu bod yn heriol. Maen nhw’n aml yn delio â sefyllfaoedd na wnaiff y rhan fwyaf o bobl fyth eu gweld, a maen nhw’n gwneud hynny hefo urddas. Dwi’n hynod o falch ohonynt.”
Dysgwch fwy am waith Cyfathrebwyr yr Ystafell Reoli ar ein gwefan: Cyfathrebwr | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Er mwyn cofrestru eich diddordeb ar gyfer swyddi yn yr Ystafell Reoli yn 2024 ewch ar: Cofrestrwch eich Diddordeb ar gyfer ein Hymgyrch SCCH sydd ar y gorwel! – (tal.net)
Nodyn:
Rhwng 23 Gorffennaf a 22 Hydref 2023, mae swyddogion a staff Ystafell Reoli Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn: