Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam dros nos.
Toc ar ôl 12am y bore yma (dydd Sul, 22 Hydref), fe wnaethon ni dderbyn adroddiad fod cerddwr a oedd yn cerdded ar yr A483 tua'r gogledd rhwng Cyffordd 4 (A525 Ffordd Rhuthun) a Chyffordd 5 (cyfnewidfa Ffordd yr Wyddgrug) wedi cael ei daro gan gerbyd.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb, ond yn anffodus, cyhoeddwyd fod y dyn yn farw yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod.
Mae'r ffordd wedi ail-agor bellach ac mae ymholiadau'n parhau ynghylch y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Donna Vernon: "'Da ni’n estyn ein cydymdeimlad at deulu a chyfeillion y dyn yn ystod y cyfnod anodd hwn."
"Dwi'n annog unrhyw un sydd efallai wedi bod yn teithio ar hyd yr A483 ar adeg y digwyddiad, neu unrhyw un sydd efallai hefo ffilm camera cerbyd i gysylltu hefo ni.
“Hoffwn hefyd ddiolch i fodurwyr am eu hamynedd tra roedd y ffordd ar gau."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad gysylltu hefo ni drwy'r sgwrs we fyw neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif 23001039592.