Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
DIWEDDARU:
Mae dyn 48 oed a dynes 26 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â byrgleriaeth ar 23 Hydref.
Daw’r arestiadau yn dilyn ein apêl am wybodaeth ddoe o ran byrgleriaeth ddigwyddodd mewn tŷ gwledig rhwng Brynteg, Maenaddwyn a Llannerchymedd. Cafodd swm o arian parod ac eiddo personol eu dwyn.
‘Da ni’n parhau i apelio ar unrhyw un a all ddod ar draws dogfennau ac allweddi sydd o bosib wedi cael eu dwyn i gysylltu hefo ni.
Gofynnir i unrhyw un hefo gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu hefo’r heddlu drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 23001047919.
*****
'Da ni'n ymchwilio byrgleriaeth ddigwyddodd mewn tŷ ar Ynys Môn ddoe, dydd Llun 23 Hydref.
Credir fod dau o bobl wedi mynd i'r tŷ oddeutu 7.30pm, sydd mewn lleoliad gwledig rhwng Brynteg, Maenaddwyn a Llannerchymedd. Cafodd swm o arian parod ac eiddo personol eu dwyn o'r cyfeiriad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Mae ein hymchwiliadau ni i'r digwyddiad hwn yn parhau a 'da ni'n annog unrhyw un a oedd yn dreifio yn ardaloedd Brynteg, Benllech a Llannerchymedd neithiwr ac sydd efallai hefo ffilm camera cerbyd o gerbydau amheus i gysylltu hefo ni ar unwaith.
"Tra mae digwyddiadau fel hyn yn brin, 'da ni'n gofyn i'r gymuned barhau cadw llygad ar weithgarwch amheus yn yr ardal. Buasem yn cynghori trigolion ystyried diogelwch eu cartrefi, gan gynnwys defnyddio goleuadau tu allan, clychau drws hefo fideo, a sicrhau fod ffenestri a drysau wedi cloi.
"Ar ben hyn, 'da ni'n apelio ar unrhyw un sydd efallai wedi dod ar draws dogfennau ac allweddi sydd o bosib wedi cael eu dwyn i gysylltu hefo ni."
Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu hefo'r heddlu drwy'n gwefan neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 23001047919.