Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 33 oed wedi cael ei garcharu am droseddau trais domestig.
Ymddangosodd Joshua Alexander Hughes, o Ddwyran, Ynys Môn, ger bron Llys y Goron Caernarfon ddoe (dydd Mawrth, 17 Hydref), ar ôl pledio'n euog i ymddygiad rheolaethol a thagu bwriadol.
Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Chwefror 2023, fe wnaeth Hughes ymddwyn yn rheolaethol a gorfodol tuag at y dioddefwr. Ar sawl achlysur, fe wnaeth hefyd beri niwed corfforol iddi.
Cafodd ei garcharu am bedair blynedd ac fe dderbyniodd orchymyn atal.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Cara Williams: "Mae cam-drin domestig yn dod ym mhob lliw a llun ac mae'n gallu cael effaith ddofn a hirhoedlog ar unigolyn.
"Dwi'n cymeradwyo dewrder y dioddefwr yn yr achos hwn sydd wedi bod yn ddewr drwy gydol yr ymchwiliadau sydd wedi arwain at ganlyniad heddiw.
"Buaswn i'n annog unrhyw un yn profi achos o gam-drin domestig i riportio eu pryderon i ni gan wybod y gwnawn gymryd eu hadroddiad o ddifrif. Fe wnawn ni weithio hefo partneriaid er mwyn eich helpu chi drwy'r ymchwiliadau."
Mae Ymgyrch Unite yn ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.