Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carcharwyd dynes 34 oed am fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherddwr yn Llandudno, gan adael y dyn ag anafiadau a wnaeth newid ei fywyd.
Ymddangosodd Charlotte Brown o Gysgod y Castell, Llandudno yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Mawrth 21 Hydref ar ôl cyfaddef yfed a gyrru gan achosi anafiadau difrifol drwy yrru yn ddiofal a methu â stopio yn dilyn damwain ffordd.
Fe'i dedfrydwyd i 16 mis o garchar a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ac wyth mis. Rhaid iddi hefyd sefyll prawf gyrru dwys wedi i'r gwaharddiad ddod i ben.
Digwyddodd y ddamwain ar Lon Crogfryn, Llandudno ar ddydd Sadwrn, 28 Ionawr tua 11.24pm pan wnaeth y cerbyd yr oedd Brown yn ei yrru daro dyn yn cerdded adref ar ôl noson allan.
Cafodd anafiadau a fydd yn newid ei fywyd.
Yn dilyn y gwrthdrawiad gadawodd Brown y safle cyn cael gwrthdrawiad arall o fewn munud pan drodd ei char drosodd.
Cafodd ei thynnu o'i cherbyd gan aelodau o'r cyhoedd. Fe'i harestiwyd yn ddiweddarach y noson honno.
Dywedodd Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Plismona’r Ffyrdd: "Cafodd y dioddefwr anafiadau difrifol i'w ben a'i goesau a fydd yn effeithio arno am weddill ei oes.
"Wedi treulio pedwar mis yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke, cafodd ei symud i ganolfan arbenigol ac mae yno o hyd.
"Ni fydd unrhyw ddedfryd yn lleddfu'r niwed a achoswyd iddo a'i deulu gan Brown ar 28 Ionawr.
"Gobeithio y bydd yr achos trasig hwn yn atgoffa pob gyrrwr bod gyrru o dan ddylanwad alcohol yn arwain at ganlyniadau andwyol."