Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn: "Fel rhan o’n hymchwiliadau er mwyn sefydlu’r amgylchiadau ynghylch marwolaethau’r pedwar llanc ifanc yn ardal Garreg, ‘da ni’n parhau i gynnal chwiliad manwl o’r ardal lle cafwyd hyd i’r car.
"O ganlyniad, bydd yr A5048 yn parhau ar gau hyd nes y byddwn yn fodlon fod yr holl eiddo perthnasol wedi’u casglu.
"Mae ein meddyliau’n parhau hefo’r teuluoedd yn y cyfnod hynod anodd yma. Buaswn i’n hoffi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth parhaus."
Diweddariad: 2:50pm
Dywedodd Uwcharolygydd Owain Llewellyn: "Gallwn gadarnhau bod Tîm Chwilio Tanddwr y Gogledd Orllewin nawr yn ein cynorthwyo yn archwilio’r ardal ble canfuwyd y car.
"Bydd yr A4085 yn parhau ar gau tra bod y chwilio yn parhau.”
Diweddariad: 6:50pm
Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn: "Mae swyddogion a chydweithwyr o Dîm Achub Tanddwr y Gogledd Orllewin wedi darfod chwilio ffos ddyfrhau oddi ar yr A4085, er mwyn sicrhau fod yr holl eiddo wedi cael eu casglu.
"Bydd y ffordd yn cael ei hailagor gan Adran Briffyrdd yr Awdurdod Lleol yn hwyrach heno. Buaswn i’n hoffi diolch i’r gymuned leol ac i fodurwyr am eu hamynedd heddiw wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.
"Da ni’n parhau i ddiweddaru a helpu’r teuluoedd yn y cyfnod anodd yma."