Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwirfoddolwyr cynllun Beicio Diogel Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu diolch am eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd am gynorthwyo darparu gweithdai addysgiadol ar draws y rhanbarth.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan yr heddlu, yn anelu lleihau’r nifer o feicwyr modur sy’n cael eu hanafu ar y ffyrdd drwy gynnig gweithdai sydd wedi derbyn cymhorthdal ar draws Gogledd Cymru, hefo gwirfoddolwyr ar draws yr ardal yn rhoi eu hamser ac adnoddau i gynorthwyo’r hyfforddiant.
Dros y penwythnos aeth Arolygydd Iwan Roberts o Uned Troseddau’r Ffyrdd i Rhug yng Nghorwen i ddiolch i’r arsylwyr yn bersonol am eu gwaith caled sydd wedi gweld 155 o feicwyr modur fynychu 15 o weithdai eleni.
Cafodd yr arsylwyr frecwast fel diolch iddynt ac roedd cyfle i werthuso’r gweithdai ynghyd â trafod ymgyrch 2024.
Mae’r gweithdai Beicio Diogel yn cynnig cyngor ymarferol ynglŷn â diogelwch y ffyrdd ac yn addysgu beicwyr drwy basio gwybodaeth a sgiliau er mwyn ceisio eu helpu nhw i fod yn fwy diogel ar y ffyrdd. Mae’r gweithdai diwrnod o hyd yn cynnwys cyflwyniadau theori yn y dosbarth – gan edrych ar achosion mewn gwrthdrawiadau a’r datrysiad, a taith sy’n cael ei oruchwylio lle mae’r beicwyr modur yn cael adborth hanfodol. Mae materion megis cornelu, safle priodol ar y ffordd, sylwadaeth, gweld peryglon a mwy.
Meddai’r Arolygydd Iwan Roberts, Cydlynydd Cynllun Beicio Diogel Heddlu Gogledd Cymru: “Pob blwyddyn mae Beicio Diogel yn ceisio ymgysylltu gyda’r gymuned beicio modur. Mae darparu’r gweithdai yma a darparu asesiadau i hybu’r hyfforddi yn rhan o’n busnes craidd. Fodd bynnag, mae darparu’r cyrsiau yma yn golygu adnoddau. Dyma ble mae ein cymuned beicio yn camu ‘mlaen.
“Mae beicwyr modur profiadol â chymwysterau arbennig yn cynnig eu cefnogaeth i fod yn arsylwyr Becio Diogel. Maent yn cael eu dewis er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yma o ansawdd uchel iawn. Mae’r adborth mae’r arsylwyr yn ei gael yn wych.
“Mae esiampl Gogledd Cymru o ddefnyddio gwirfoddolwyr wedi cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o heddluoedd eraill sy’n darparu cyrsiau Beicio Diogel. Mae’r gwirfoddolwyr yn teimlo’n angerddol am eu hymrwymiad a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad.
“Mae’r gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser, yn defnyddio beiciau modur eu hunain, petrol a’u arbenigedd er mwyn helpu darparu’r hyfforddiant. Fel Cydlynydd y cynllun dwi’n falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â nhw.”
Meddai’r Prif Uwch Arolygydd Mark Williams o Gwasanaethau Cefnogol yr heddllu: “Fel gwasanaeth yr heddlu rydym yn parhau i fod yn gwbl gefnogol o’r gweithdai Beicio Diogel, sef adnodd hynod o werthfawr sy’n cael canmoliaeth. Rydym yn ymwybodol na fyddai’r gweithdai mor llwyddiannus heb gymorth y gwirfoddolwyr.
“Yn anffodus, rhwng mis Ionawr a Hydref eleni rydym wedi gweld *23 gwrthdrawiad angheuol ar ffyrdd Gogledd Cymru. Mae saith o’r rhain wedi cynnwys beicwyr modur. Mae materion cyffredin mewn gwrthdrawiadau beiciau modur yn cynnwys troadau ar yr ochr chwith, colli rheolaeth, goryrru a reidio’n rhy agos.
“Mae diogelwch y ffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru a hoffwn annog cyn gymaint o feicwyr ag sy’n bosib i gymryd rhan mewn gweithdy Beicio Diogel leol yn 2024 er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ehangach.”
Gellir derbyn mwy o wybodaeth am y cynllun Beicio Diogel drwy’r wefan: www.bikesafe.co.uk
*Pobl mewn gwrthdrawiadau yng Ngogledd Cymru - Ionawr i Hydref: