Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 11 Tachwedd 2023, fe wnaeth oddeutu 50 o swyddogion heddlu, staff, gwirfoddolwyr ac aelodau o wasanaethau brys eraill Gogledd Cymru, ynghyd â'u ffrindiau a'u teuluoedd, oleuo Moel Famau ar daith gerdded golau glas er cof am swyddogion a staff o fewn y gwasanaethau golau glas sydd wedi colli eu bywydau oherwydd problemau iechyd meddwl.
Roedd y daith gerdded wedi'i henwi ar ôl PC Ryan Donaldson, a oedd yn gweithio fel rhan hynod werthfawr o dîm plismona Wrecsam Wledig. Roedd wedi bod yn swyddog hefo Heddlu Gogledd Cymru ers 2018 ond yn anffodus cyflawnodd hunanladdiad ym mis Rhagfyr llynedd.
Moel Famau ydy'r bryn uchaf ym Mryniau Clwyd a gall fod yn heriol unrhyw dro, ond yn fwyfwy yn y tywyllwch. Yn ffodus, roedd gan bawb oedd yn cymryd rhan yn y daith olau cerdded glas hefo nhw er mwyn arwain y ffordd.
Dywedodd Sophie Ho, Rhingyll Cymorth Wrecsam Wledig a oedd wedi bod yn Rhingyll i Ryan, ac a drefnodd y daith gerdded: "Roeddwn i mor falch o weld pawb yn cefnogi'r daith gerdded hon er cof am Ryan a chydweithwyr eraill 'da ni wedi'u colli, a chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl o fewn y gwasanaethau golau glas.
"Plismona ydy un o'r rolau mwyaf dirdynnol. Mae ond yn haws wrth gydweithio hefo swyddogion sy'n falch o wisgo eu lifrai a helpu pobl eraill mewn angen heb betruso. Roedd Ryan felly'n union. Dwi’n gobeithio bod cydweithwyr ac aelodau teuluoedd y bobl hynny o fewn gwasanaethau glas yn edrych ymlaen at daith gerdded flynyddol fel hyn. Mae'n atgoffa rhywun nad ydych fyth ar eich pen eich hun yn nheulu'r golau glas. Os 'da chi'n cael problemau iechyd meddwl, mae cymaint o bobl sy'n poeni ac a wnaiff eich helpu chi, yn ddi-os.
"Fe hoffwn i ddiolch yn gyntaf i Linda a Cara sef mam a chwaer Ryan am gefnogi a dod i'r digwyddiad hwn a gadael iddo ddigwydd fel rhan o waddol Ryan.
"Fe hoffwn i ddiolch yn fawr i'r holl staff am eu hymroddiad wrth ddod a dod â'u teuluoedd hefyd. Diolch i'r Arolygydd Matt Subacchi am ei help wrth gynllunio a threfnu. Diolch i Mark a Jayne o Ffederasiwn yr Heddlu am ddod. Diolch i'r Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison am ei help hefo gwneud diodydd poeth ac i'n Prif Gwnstabl Amadan Blakeman am yrru'n bell iawn o Dde Cymru er mwyn cyrraedd mewn pryd er mwyn gweld pawb yn dod i lawr o'r daith gerdded.
"Buaswn i hefyd yn hoffi diolch i Dîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru o dan arweiniad Huw Birrell, Andy McLaren o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r Prif Arolygydd Stephen Roberts a oedd yn arwain y daith ac a wnaeth helpu'n fawr hefo cael pobl i fyny a lawr yn saff. Diolch hefyd i Edward Sopp, Ceidwad Cefn Gwlad Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfi am ei help wrth drefnu'r daith gerdded.
"Diolch hefyd i John Morris am arwain ei dîm o Gadetiaid Heddlu hyfryd a wnaeth helpu hefo cyfarwyddiadau parcio. Er y tywydd oer, roeddent i gyd yn gwenu! Yn olaf, diolch i Gymdeithas Chwaraeon yr Heddlu am roi'r goleuadau glas 'da ni'n gobeithio eu defnyddio bob blwyddyn."
Os ‘da chi’n cael trafferth hefo’ch iechyd meddwl neu'ch lles, dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae help ar gael i chi. Mae sawl elusen sy'n helpu fel:
Mind Cymru – Mae Mind yn elusen iechyd meddwl sy'n gweithio ar draws Cymru a Lloegr er mwyn newid, helpu a chysylltu meddyliau yn y frwydr dros iechyd meddwl. Gallwch gysylltu hefo nhw ar 0300 123 3393 neu ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan nhw – Mind Cymru – Mind
Y Samariaid – Mae'r Samariaid yn elusen iechyd meddwl arall sy'n cynnig help am ddim a chyfrinachol ddydd a nos. Gallwch eu ffonio nhw ar 116 123 neu ewch ar eu gwefan nhw yma – Samariaid | Mae bob bywyd a gollir i hunanladdiad yn drasiedi | Yma i wrando
Stem4 – Mae Stem4 yn helpu plant yn eu harddegau, ffrindiau, rhieni/gofalwyr ac ysgolion hefo problemau iechyd meddwl. Mae ganddyn nhw adnoddau defnyddiol os 'da chi'n poeni am bethau fel gorbryder, iselder, hunan niweidio, anhwylderau bwyta a chaethineb. Ewch ar eu gwefan nhw yma – stem4 – yn helpu iechyd meddwl yn yr arddegau
MindOut – Mae MindOut yn wasanaeth iechyd meddwl sy'n cael ei gynnal gan ac ar gyfer aelodau o'r gymuned LHDTQ er mwyn helpu gwella iechyd a lles pawb. Mae ganddyn nhw sgwrs fyw help ar-lein, a llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan nhw – MindOut | Elusen Iechyd Meddwl ar gyfer y gymuned LHDTQ
Scope – Mae Scope yn elusen cydraddoldeb anabledd ar waith yng Nghymru a Lloegr. Maen nhw'n rhoi help ymarferol ac emosiynol pan mae ei angen fwyaf. Mi fedrwch chi ffonio eu llinell gymorth ar 0808 800 3333 neu ewch ar eu gwefan nhw yma – Hafan | Yr elusen anabledd Scope UK