Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n parhau hefo'n gwaith o atal trais yn erbyn merched a genethod, helpu dioddefwyr ac ymlid troseddwyr.
Mae'r term 'trais yn erbyn merched a genethod' yn cyfeirio at drais neu gam-drin 'da ni'n gwybod sy'n effeithio'n anghymesur ar ferched a genethod.
Mae troseddau'n cynnwys treisio a throseddau rhywiol eraill, stelcio, cam-drin domestig, cam-drin 'ar sail anrhydedd' (gan gynnwys llurgunio organau cenhedlu merched, priodasau o dan orfod a lladdiadau 'anrhydedd'), 'pornograffi dial' a 'thynnu lluniau dan dîn, ynghyd â llawer o rai eraill.
Drwy gydol mis Hydref, bu 162 o ganlyniadau cadarnhaol o ran y rhai hynny a amheuwyd o fod wedi troseddu yng ngogledd Cymru.
Mae canlyniad cadarnhaol yn golygu camau wedi'u cymryd gan yr heddlu unwaith mae digwyddiad wedi'i riportio i ni ac mae rhywun wedi cael eu harestio. Gall hyn gynnwys sawl canlyniad, er enghraifft cyhuddiad, rhybudd neu raglen sy'n gweithio er mwyn delio hefo achosion sylfaenol y troseddu.
O'r 162 canlyniad y mis diwethaf, arweiniodd cyfanswm o 120 at gyhuddiad.
Ar ben hyn, rhoddwyd dau rybudd a 35 o ddatrysiadau cymunedol, lle mae'r troseddwr yn derbyn cyfrifoldeb neu'n gwneud rhyw fath o iawn am rywbeth.
O'r holl ganlyniadau cadarnhaol, roedd 44% (71 o droseddau) yn ymwneud â throseddau domestig.
Roedd bron i 36% yn achosion o drais a arweiniodd at anaf corfforol, tra roedd bron i chwarter yn ymwneud â throseddau stelcio ac aflonyddu.
Roedd ychydig dros 12% o'r canlyniadau cadarnhaol o achosion a oedd yn cynnwys rhywun yn bygwth y gall rhywbeth mwy difrifol ddigwydd.
Tra bod ni'n defnyddio'r term 'trais yn erbyn merched a genethod' drwy gydol yr adroddiad hwn, mae hyn y cyfeirio at holl ddioddefwyr unrhyw un o'r troseddau hyn.