Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y Tîm Plismona Cymdogaethau yn ymweld â chymunedau ledled Ynys Môn dros yr wythnosau nesaf er mwyn atal byrgleriaethau wrth i nosweithiau'r gaeaf fyrhau.
Bydd swyddogion yn ymweld ag ardaloedd preswyl er mwyn cynnig pecynnau a chyngor atal trosedd er mwyn gwarchod trigolion rhag byrgleriaethau.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar addysg ac offer atal, hefo'r nod o leihau'r nifer o ddioddefwyr.
Rhwng 1 Medi 2022 a 3 Medi 2023, riportiwyd 103 o fyrgleriaethau ar Ynys Môn. Roedd 70% o'r byrgleriaethau hyn yn breswyl, hefo 30% yn cael eu dosbarthu fel rhai busnes a chymunedol.
Ar gyfer y troseddau a riportiwyd fwyaf amdanynt, targedwyd cartrefi a busnesau pan oeddent yn wag.
Mewn ychydig o dan chwarter (24%) o'r achosion hyn, roedd yr eiddo a dargedwyd yn anniogel.
Dros yr wythnosau nesaf bydd swyddogion yn patrolio ledled Ynys Môn a byddant yn rhoi cyngor diogelwch i fusnesau neu eiddo sydd yn edrych yn wag. Bydd hyn yn caniatáu unigolion gymryd camau rhagweithiol er mwyn gwneud eu heiddo'n llai deniadol i ladron bachog.
Dywedodd y Rhingyll Cymorth Ardal Iwan Jones: "Mae byrgleriaethau nid yn unig yn cael effaith andwyol ar unigolion ond hefyd ar y cymunedau lle mae'r troseddau hyn yn cael eu cyflawni.
"Drwy lansio'r ymgyrch hon, 'da ni'n anelu lleihau'r nifer o ddioddefwyr ynghyd â gwella ein hymchwiliadau i droseddau sy’n cael eu riportio mewn cartrefi a busnesau.
"Rydym eisiau cydweithredu hefo'r gymuned drwy ofyn i drigolion gymryd camau syml ond effeithiol er mwyn gwarchod eu heiddo ac eitemau gwerthfawr er mwyn atal troseddau yn y dyfodol.
"Y ffordd orau o atal byrgleriaethau ydy i bawb fod yn ymwybodol sut i wneud eu heiddo'n llai deniadol i ladron bachog a bod yn wyliadwrus am weithgarwch amheus yn eu hardaloedd lleol."
Ceir cyngor ar atal trosedd ynghylch diogelu eich eiddo ar ein gwefan.