Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddiw (dydd Llun, 13 Tachwedd) yn nodi cychwyn Ymgyrch Sceptre – sef wythnos o weithredu cenedlaethol a fydd yn cael ei chynnal hyd at ddydd Sul, 19 Tachwedd.
Mae Ymgyrch Sceptre, yn ymgyrch genedlaethol sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn ac sy’n cael ei chydlynu gan CCPSH (Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu). Mae’r ymgyrch wedi’i hanelu at godi ymwybyddiaeth am drosedd sy’n ymwneud â chyllyll a’r gwaith mae’r heddlu’n ei wneud er mwyn datrys, lleihau ac atal y drosedd.
Mae swyddogion yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymgyrchoedd sydd wedi’u targedu, ymrwymiad cymunedol ac addysgu, er mwyn tawelu meddwl pobl ifanc eu bod yn fwy diogel pan nad ydynt yn cario cyllell.
Fel rhan o’r ymgyrch wythnos o hyd, mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r cyfle i bobl ildio eu cyllyll mewn modd diogel mewn biniau arbennig yn y llefydd canlynol:
Cownteri Blaen Gorsafoedd Heddlu:
Eleni, mae sawl Canolfan Ailgylchu ar draws y rhanbarth yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a gall cyllyll hefyd gael eu hildio yn y mannau canlynol:
Rhanbarth y Gorllewin:
Yr Ardal Ganolog:
Rhanbarth y Gorllewin:
Dywedodd yr Arolygydd Geraint Richards o Hyb Atal Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud er mwyn atgyfnerthu'r neges fod cario cyllell yn annerbyniol. Ni ddaw daioni o gario un.
“Mae bob achos sy'n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd ynghlwm. Mae hon yn broblem ‘da ni’n ei chymryd hi’n hynod ddifrifol.
"’Da ni’n gweithredu'n gadarn os ceir rhywun ym meddu cyllell neu arf miniog yn anghyfreithlon ar y strydoedd. Buaswn yn eich annog chi gymryd y cyfle hwn er mwyn gwaredu unrhyw arfau drwy fynd â nhw i unrhyw gownter blaen yn ein gorsafoedd heddlu.
“Mae cyllyll yn beryglus ac nid oes lle iddyn nhw ar strydoedd Gogledd Cymru. Tydy cario cyllell ddim yn eich cadw chi’n saff. ‘Da chi’n peryglu eich hun drwy gario cyllell a ‘da chi’n fwy tebygol o gael eich niweidio mewn digwyddiad treisgar.
"Tra mae achosion a gyrwyr troseddau cyllyll yn gymhleth, mae ymyrraeth gynnar a gosod mesurau er mwyn ymdrin â'r gwir achosion yn gwbl hanfodol. ‘Da ni’n ymroddedig i ymdrin yn gydweithredol â mynd i'r afael â throseddau cyllyll ledled gogledd Cymru. Gwnawn barhau'r gwaith llwyddiannus hefo’n partneriaid a chymunedau sydd eisoes yn bodoli.”
Mae gan fân-werthwyr rôl bwysig i'w chwarae wrth ymdrin â throseddau cyllyll drwy sicrhau nad yw cyllyll yn cael eu defnyddio gan y bobl anghywir. Yn ogystal â hyn, bydd swyddogion yn ymweld â siopau manwerthu lleol er mwyn cynnal "gwiriad gwybodaeth" hefo staff o ran gwerthu cyllyll a'r ymdriniaeth 'Herio ID 25'.
Ychwanegodd yr Arolygydd Richards: “Mae rhan fawr o waith y swyddogion allan mewn cymunedau ac ysgolion – yn addysgu pobl ifanc ar yr effeithiau mae cyllyll yn gallu eu cael nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd a chymunedau. Mi fydd y gwaith yma’n parhau drwy’r wythnos hefo’r Swyddogion Cymunedol Ysgolion yn ymweld â’r ysgolion.
"Dwi hefyd yn gofyn i rieni, gwarcheidwaid ac aelodau estynedig o'r teulu, er mwyn siarad hefo aelodau ifanc o'r teulu am droseddau cyllyll. Gallwch chwarae rôl hanfodol wrth eu hatal rhag bod ynghlwm. ‘Da ni’n eich cynghori i geisio siarad hefo nhw'n agored am y peryglon, ynghyd â'r canlyniadau newid bywyd sy'n deillio o gario cyllell.
"’Da ni’n ddiolchgar am y cymorth gan ein partneriaid a chymunedau. Hefo’n gilydd, fe wnawn barhau i weithio tuag at ddisodli cyllyll ac arfau peryglus a dod â'r rhai hynny sy'n gyfrifol, wrth eu cario a'u defnyddio, o flaen eu gwell."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae Ymgyrch Sceptre yn enghraifft sut mae’r heddlu’n codi ymwybyddiaeth ac yn gweithredu o ran troseddau cyllyll. Mae hi’n ymgyrch dwi’n ei chefnogi’n gyfan gwbl. Ni ddylai trosedd fel hyn gael lle mewn cymdeithas.
“Tra mae troseddau cyllyll yn isel yng Ngogledd Cymru, a diolch am hynny, mae hi’n bwysig i ni, serch hynny, eu lleihau nhw ymhellach fyth. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, mae cyflawni cymdogaethau saffach yn flaenoriaeth allweddol o fewn fy nghynllun i er mwyn trechu trosedd a chreu cymunedau cadarn.
"Mae mentrau fel Ymgyrch Sceptre yn dangos sut allwn ni addysgu a lledaenu’r negeseuon ‘da ni angen eu clywed nhw ynghylch peryglon cario a defnyddio cyllyll, a’r boen maen nhw’n ei achosi i ddioddefwyr, eu teuluoedd nhw a’r gymuned ehangach. Gall troseddau cyllyll niweidio a darfod bywydau. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio er mwyn ei atal.”
Os oes gennych bryderon am rywun rydych yn eu hadnabod neu'n gofalu amdanyn nhw, ac sy'n cario neu'n cuddio cyllell, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu'r wefan ymgyrch Byw Heb Ofn https://www.fearless.org/en/give-info . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.
Gall defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy’r hashnod #OpSceptre