Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn gweithio hefo eiddo trwyddedig lleol er mwyn taclo defnyddio cyffuriau mewn tafarndai a bariau.
Dros y penwythnos, fe aeth swyddogion De Gwynedd 15 o eiddo er mwyn cynnal gwiriadau a chyfnod yr ŵyl ar y gweill.
Defnyddiwyd citiau profi cyffuriau er mwyn asesu wynebau yn y toiledau. Yn anffodus, fe wnaeth 10 allan o 15 o'r eiddo ddangos canlyniadau positif o olion cocên, gan gynnwys lle newid babanod mewn un lleoliad.
Mae cyngor wedi'i roi i ddalwyr trwydded ynghylch sut i riportio unrhyw bryderon wrth symud ymlaen. Bydd swyddogion yn cynnal ymweliadau pellach ar draws De Gwynedd yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd y Rhingyll Simon Barlow o’r Tîm Plismona Cymdogaethau: "'Da ni'n diolch i ddalwyr trwydded am eu help parhaus ac yn parhau cydweithio hefo nhw er mwyn gwneud yn siŵr fod yr economi nos yn Ne Gwynedd yn parhau'n saff.
"Mae'n bryderus dod o hyd i dystiolaeth am ddefnyddio cocên yn nhoiledau'r eiddo hyn. 'Da ni'n ymroi cydweithio hefo partneriaid er mwyn dileu hyn.
"Byddwn yn cynnal mwy o ymweliadau ar draws yr ardal yn yr wythnosau nesaf ac wedi ymgeisio am gyllid er mwyn darparu citiau profi cyffuriau a chwistrellau atal cyffuriau i eiddo trwyddedig.
"Buaswn i'n annog unrhyw un hefo gwybodaeth am gyffuriau yn eu hardal leol riportio am y peth wrth yr heddlu neu'n anhysbys drwy Crimestoppers."
Dylai unrhyw un hefo pryderon am gyffuriau yn yr ardal leol gysylltu hefo ni drwy ein gwefan ni neu drwy ffonio 101, neu'n anhysbys drwy Crimestoppers.