Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman ei bod yn siomedig hefo'r radd ond roedd yn falch fod gwaith da wedi'i amlygu yn adroddiad Arolygaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) ar ymateb Heddlu Gogledd Cymru i Droseddau Difrifol a Threfnedig.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "Dwi'n derbyn canfyddiadau'r adroddiad yn llawn. Dwi wedi ymroi mynd i'r afael â'i argymhellion. Er fy mod wedi siomi hefo'r radd, dwi'n falch o ddweud ein bod ni eisoes wedi gwneud newidiadau sylweddol er mwyn gwella'r ffordd 'da ni'n taclo troseddau difrifol a threfnedig o fewn ein cymunedau ni."
Mae meysydd a nodwyd i'w gwella yn cynnwys yr angen am gyrchu Timau Rhagweithiol a Dadansoddwyr ychwanegol, a gwella dealltwriaeth y gweithlu o daclo troseddau difrifol a threfnedig.
“Fel rhanbarth, ‘da ni’n rhagorol. Mae gynno ni staff yn gweithio’n rhanbarthol yn taclo ein prif fygythiadau o ran troseddau difrifol a threfnedig. ‘Da ni’n canolbwyntio felly ar ein hymateb cymdogaethau lleol. 'Da ni'n falch ein bod yn barod wedi gallu cynyddu'r nifer o swyddogion mewn rolau rhagweithiol. Mae gwaith ar y gweill er mwyn gwella ein cyfathrebu mewnol er mwyn cynyddu dysgu a datblygu o ran troseddau difrifol a threfnedig o fewn ein gweithlu ni.
"Roeddwn i'n falch o weld fod yr adroddiad hefyd yn amlygu'r proffiliau cymunedol effeithiol sydd gyno ni mewn lle. Roedd yr adroddiad yn amlygu hefyd fod ein hasiantaethau partner ni'n cydnabod manteision y rhain, ynghyd â'n 'Hyb Atal.' Nod hwn ydy atal pobl rhag dioddef trosedd ac mae'n cynnwys sawl tîm ac asiantaethau eraill gan gynnwys Diogelwch Cymunedol a Chyfiawnder Ieuenctid.
"Mae ein gwaith o helpu dioddefwyr Llinellau Cyffuriau'n parhau. Roedden ni'n gallu rhoi enghreifftiau o swyddogion yn gweithio hefo partneriaid er mwyn gwarchod dioddefwyr cogio."
Tynnwyd sylw hefyd at Checkpoint Cymru sef rhaglen sy'n cynnig opsiynau gwirfoddol i erlyniad i droseddwyr sy'n oedolion. Mae hyn yn cynnwys pobl a nodwyd eu bod ar ymylon troseddoldeb ac yn cytuno cael help er mwyn atal aildroseddu. Ar adeg yr arolwg, roedd 147 o bobl wedi cael eu trin fel hyn. Dim ond tri wnaeth aildroseddu.
Tynnwyd sylw hefyd at yr Heddlu Bach, sydd ar waith mewn 13 ysgol leol, yn gwneud plant 9-11 oed yn ymwybodol am gadw'n saff ac am broblemau plismona lleol. Mae cysylltiad agos hefo'r 16 o swyddogion ysgolion sy'n gweithio mewn ysgolion uwchradd er mwyn cyfeirio pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn troseddau difrifol a threfnedig.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "'Da ni'm yn hunanfodlon. Fe wnawn ni barhau hefo'n hymgyrchoedd rhagweithiol ni, hefo help ein partneriaid. Fe wnawn ni wneud yn siŵr ein bod ni'n helpu pobl fregus sy'n cael eu camfanteisio oherwydd troseddoldeb trefnedig. Fe wnawn ni hefyd wneud yn siŵr fod Gogledd Cymru'n lle sy'n gwrthwynebu'r rhai hynny sy'n achosi'r niwed mwyaf i'n cymunedau ni.
"'Da ni wedi ymroi gweithredu cynllun er mwyn delio hefo'r newidiadau sefydliadol angenrheidiol er mwyn gwella'r meysydd a nodwyd gan yr Arolygiaeth."
Dangosodd yr arolwg trosedd diweddaraf yng Nghymru a Lloegr fod Gogledd Cymru wedi gweld gostyngiad o 11.3% mewn cyfanswm troseddau a gofnodwyd. Mae hyn yn dal i fod y gostyngiad mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cymharu hefo cynnydd cenedlaethol o 2.2%.
Mae arolygon cyhoeddus diweddar hefyd yn parhau i ddangos fod y mwyafrif o'n cymunedau ni'n fodlon hefo'n gwasanaeth wrth i ni geisio gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf saff yn y DU i fyw, gweithio ac ymweld.