Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae naw o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymgyrch ar y cyd rhwng Heddluoedd Gogledd Cymru a Glannau Mersi.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth swyddogion o Ogledd Sir y Fflint gynnal diwrnod o weithredu yn yr ardal o dan faner Ymgyrch Medusa Heddlu Glannau Mersi – a sefydlwyd er mwyn targedu Llinellau Cyffuriau.
Cafodd chwech o eiddo preswyl eu chwilio ac fe arestiwyd pump o bobl am droseddau gan gynnwys bod ynghylch gwerthu cyffuriau Dosbarth A a B, meddu hefo bwriad o gyflenwi cyffuriau, meddu arf miniog a meddu cyffuriau.
Cafwyd pedwar arestiad am yrru ar gyffuriau ac yfed a gyrru ar y diwrnod, ar ben 13 o stopio a chwilio ac fe gafodd dau gerbyd eu hatafaelu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Parry o Sir y Fflint: "Daw'r gweithgarwch cadarnhaol diweddar ar ôl gwaith 'da ni'n ei gyflawni o ddydd i ddydd er mwyn arestio'r rhai hynny sydd â chysylltiad â'r math hwn o droseddoldeb a chael gwared ar Linellau Cyffuriau.
"Mae'n enghraifft arall o'r llwyddiant sydd i'w gael drwy ein partneriaeth agos hefo Heddlu Glannau Mersi.
"Mae'r rhai hynny sy'n troseddu yn peryglu wynebu'r canlyniadau. Pan 'da ni'n nodi pobl fregus yn ein hymholiadau ni sy'n cael eu camfanteisio, 'da ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu trin yn sensitif a'n bod ni'n deall eu hamgylchiadau nhw. Maen nhw'n cael cynnig yr help priodol. Ein prif darged ni ydy'r rhai hynny sy'n ceisio eu defnyddio nhw er mwyn eu mantais hunanol nhw eu hunain."
"Fe wnawn ni barhau i aflonyddu a chwalu gweithgarwch y Grwpiau Troseddau Trefnedig hyn gan nad oes lle iddyn nhw yng Ngogledd Cymru."