Stamp amser presennol: 22/06/25 13:34:22
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Wythnos Genedlaethol Diogelu: Protocol Herbert

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 15:12 16/11/23

Mae menter sy'n helpu'r Heddlu i chwilio am bobl sydd ar goll ac sydd yn byw hefo dementia yn cael ei amlygu fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu.

Menter yw Protocol Herbert a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Heddlu Norfolk yn 2011 sy'n annog teuluoedd a gofalwyr i lunio gwybodaeth ddefnyddiol a all gael ei ddefnyddio pan fydd person bregus yn mynd ar goll.

Enwir Protocol Herbert ar ôl George Herbert, cyn-filwr a oedd yng nglaniadau Normandi, a oedd yn byw gyda dementia.  Roedd George yn mynd ar goll o'i gartref gofal yn aml a byddai'n rhaid i'r heddlu fynd i chwilio amdano.

Gall gofalwyr, aelodau o'r teulu a chyfeillion gwblhau ffurflenni o flaen llaw, gan gofnodi manylion pwysig fel gwybodaeth feddygol, rhifau symudol, lleoliadau sy'n berthnasol i'r unigolyn a ffotograff.  Os bydd aelod o'ch teulu neu ffrind yn mynd ar goll, gall y ffurflenni gael eu rhoi i'r heddlu er mwyn lleihau'r amser yn casglu'r wybodaeth hon.

Gall y ffurflen gael ei hargraffu wedyn a'i storio mewn lle diogel, hawdd i gael gafael arni, neu gael ei gadw gan aelod o'r teulu yn electronig. Os yw'r person mewn cartref gofal dylai aelod o'r teulu gysylltu i ddechrau i drafod cwblhau'r ffurflen ac yna gall gael ei gynnwys mewn cynllun gofal unigolyn.

Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno eto ar draws Gogledd Cymru fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu (13 - 17 o Dachwedd).

Dywedodd y Rhingyll Beth Jones o Hwb Atal Heddlu Gogledd Cymru: “Mae pob munud yn hanfodol wrth chwilio am bobl fregus gan gynnwys pobl â dementia ac felly mae cael y wybodaeth wth law yn ddefnyddiol iawn i'r Heddlu.

“Pan fydd person yn mynd ar goll, mae'n amser pryderus i deulu a ffrindiau. Mae Protocol Herbert yn annog gofalwyr a theulu i gofnodi gwybodaeth hanfodol mewn ffurflen o flaen llaw, cyn bod argyfwng. Mae cael y ffurflen wrth law pan mae rhywun ar goll yn gallu cyflymu'r ymchwiliad ac yn golygu nad yw'r teulu yn cael trafferth canfod gwybodaeth pan fyddant o dan bwysau.

“Ers mis Ionawr mae 79 o bobl gyda dementia wedi mynd ar goll yng Ngogledd Cymru, felly rydym yn falch iawn o gael gweithio yn agos gydag asiantaethau partner ar ehangu'r fenter hon ac rydym yn annog pobl gyda dementia, teuluoedd a gofalwyr ar draws yr ardal i ddefnyddio'r ffurflen hon er mwyn ei chyflwyno i'r Heddlu pan fo angen."

Gan weithio'n agos gyda Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru mae'r fenter yn cael ei hyrwyddo drwy ddosbarthu taflenni mewn fferyllfeydd, ysbytai, meddygfeydd teulu a chanolfannau dementia ar draws yr ardal.

Dywedodd Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n aelod o Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru: “Mae ychydig dros 5,000 o bobl gyda dementia yng Ngogledd Cymru a thua 4,800 o bobl gyda dementia nad yw wedi cael ei gydnabod yn swyddogol.

“Rhagwelir fod y nifer o bobl sy’n byw hefo dementia yng Nghymru a Lloegr yn flaenorol yn mynd i gynyddu o 57% o 0.77 miliwn yn 2016 i 1.2 miliwn yn 2040. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil yn disgwyl i’r ffigwr yma fod oddeutu 1.7 miliwn.

“Drwy weithio gyda'n gilydd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o Brotocol Herbert, gallwn sicrhau y bydd pobl â dementia sy'n mynd ar goll yn cael y siawns gorau o gael eu ffeindio'n gyflym. Gall Protocol Herbert gynnig gwybodaeth bwysig, nid yn unig beth mae person yn ei wisgo ond hefyd pa iaith mae'r person yn siarad ag i ba enw mae'n ymateb.

Anogir defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol i ddilyn hashnod #HerbertProtocol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nodiadau:

Y nifer o bobl sydd wedi cael ei riportio ar goll gyda dementia:

2023

  • Hydref: 3
  • Medi: 9
  • Awst: 11
  • Gorffennaf: 10
  • Mehefin: 6
  • Mai: 7
  • Ebrill: 10
  • Mawrth: 5
  • Chwefror: 8
  • Ionawr: 10

2022

  • Rhagfyr: 7
  • Tachwedd: 10

Ceir fersiwn electronig o'r ffurflen drwy Ffurflen Protocol Herbert (northwales.police.uk)

 

Mae rhagor o wybodaeth am Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gael drwy: Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru – Safeguarding children and adults across North Wales

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024​. Cedwir pob hawl.