Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 28 oed o Wynedd wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner o garchar yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau ym Mangor a Chaernarfon.
Ymddangosodd Liam Connor McAuley o Fangor yn Llys y Goron Caernarfon heddiw lle cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a saith mis am dri byrgleriaeth a thwyll.
Digwyddodd y fyrgleriaeth gyntaf ar 26 Awst ym Mangor pan gredir i McAuley ddringo drwy ffenest fflat a dwyn £2,000 y tu mewn.
Ar 2 Medi, mi wnaeth o ddwyn waled a chardiau o eiddo arall ym Mangor cyn cyflawni byrgleriaeth arall ym Nghaernarfon ar 4 Medi gan ddwyn bag gyda dau gerdyn banc y tu mewn.
Defnyddiodd un o'r cardiau banc ar nifer o achlysuron yn ddiweddarach.
Yn dilyn ymchwiliad, cyhuddwyd McAuley a'i gadw ar remand ar ôl cael ei adnabod yn dilyn dadansoddiad fforensig ac ymholiadau CCC. Arhosodd ar remand hyd nes ymddangos yn Llys y Goron heddiw.
Dywedodd Arolygydd Ian Roberts: "Mae byrgleriaeth yn drosedd ofnadwy a gall gael effaith hirdymor ar ddioddefwyr ac ar y gymuned. "Mae gwybod bod troseddwyr wedi bod yn eich cartref, lle dylech deimlo fwyaf diogel, ac wedi dwyn eiddo personol yn ofnadwy.
"'Da ni'n ffodus iawn bod hyn yn anghyffredin yng ngogledd Gwynedd a defnyddiwyd llawer o adnoddau i ddal ac erlyn McAuley yn gyflym.
“Byddwn yn parhau i erlyn y rhai sy'n troseddu a gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi peth cysur i'r dioddefwyr."