Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n codi ymwybyddiaeth o weithredu yn erbyn trais ar sail rhyw. Mae’r ymgyrch byd-eang hwn yn rhedeg am 16 diwrnod tan 10 Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol.
Eleni, roedd Cyngor Wrecsam eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol drwy rannu gwybodaeth ar drais yn erbyn merched, ymddygiad rheolaethol a manylion cyswllt hanfodol sefydliadau ble gallwch gael cymorth.
Mae eu hymgyrch Cadw eich calol wedi gweld llu o wirfoddolwyr yn rhannu ein calonnau ar draws Dinas Wrecsam. Os byddwch yn canfod un, rydym yn eich annog i’w chadw. Mae’r calonnau yn cynnwys cod QR arnynt sydd ar ôl sganio yn cyfeirio’r defnyddiwr at ddogfen o wybodaeth ddefnyddiol os byddan nhw eu hunain, neu bobl maent yn eu hadnabod angen cymorth.
Mae’r ymgyrch yn cael ei redeg ar y cyd gyda strydoedd mwy diogel, Heddlu Gogledd Cymru a swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Diolch hefyd i arwyddion ASAP yn Wrecsam.
Bydd digwyddiad i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ddydd Gwener, 24 Tachwedd 10-12 canol dydd.
Dywedodd Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr trais ar sail rhyw, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghyngor Wrecsam: “Mae gennym i gyd rôl i’w chwarae i gadw pobl yn ddiogel, mae digwyddiadau fel Diwrnod Rhuban Gwyn a’n hymgyrch ‘cadw eich calon’ yn chwarae rôl fawr i godi’r mater o amgylch trais ar sail rhyw, yn ogystal â rhoi cyngor ar ble i gael cymorth.
Dywedodd Arolygydd Claire McGrady o Heddlu Gogledd Cymru: “Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf; o gam-drin emosiynol neu gorfforol i gam-drin ariannol neu drais a cham-drin rhywiol. Mae’n unrhyw fath o ymddygiad treisgar, camdriniol neu fygythiol a gall ddigwydd i unrhyw un, ond ni ddylid byth ei dderbyn.
“Mae’n cael effaith ddinistriol ar y dioddefwyr sy’n dioddef y gamdriniaeth yma mewn gwahanol ffurfiau. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn help i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac yn rhoi hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen i’w riportio. Gan weithio ar y cyd gyda’n partneriaid mewn asiantaethau statudol a gwirfoddol, rydym yn cymryd pob cam y gallwn i amddiffyn y dioddefwr, y plant a’r tystion rhag niwed pellach ac i geisio atal unrhyw beth ddigwydd eto.”
Am gymorth a rhestr o sefydliadau cymorth cenedlaethol a lleol ewch i: Sefydliadau cymorth | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)