Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cefnogwr Wrecsam wedi derbyn gorchymyn gwahardd pêl-droed am dair blynedd yn dilyn ymddygiad afreolus mewn gêm CPDC Wrecsam.
Ymddangosodd Darren Bryan, 42, o Newcastle Under Lyme, Swydd Stafford, ger bron Llys Ynadon Mansfield ar ddydd Mawrth, 28 Tachwedd. Cafodd ei gyhuddo o ddefnyddio ymddygiad bygythiol neu sarhaus a oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, dychryn neu ofid.
Bu'r digwyddiad yn ystod gêm gwpan yn erbyn Mansfield ar ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn Stadiwm One Call, pan wnaeth Bryan dorri ar draws munud o dawelwch.
Bydd y gorchymyn gwahardd yn ei atal rhag mynd i unrhyw gemau pêl droed yn y DU am gyfnod y gorchymyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst: "Ni fydd ymddygiad trafferthus mewn gemau cartref neu i ffwrdd yn cael eu goddef. Byddan nhw'n arwain at roi gorchmynion gwahardd pêl-droed.
"'Da ni'n cymryd pob achos o ymddygiad annerbyniol yn ddifrifol iawn. Bydd camau cadarn yn erbyn y rhai hynny sydd yn gyfrifol yn cael eu cymryd.
"Fe wnawn ni barhau cydweithio'n agos gyda'r clwb er mwyn rhoi Gorchmynion lle mae angen. 'Da ni'n ddiolchgar am help Heddlu Swydd Nottingham wrth ddelio hefo'r mater mor gyflym ar y nos ac wrth erlyn.
Dywedodd llefarydd o CCPD Wrecsam: "Diolch i Heddlu Gogledd Cymru am weithredu mor sydyn o ran yr achos hwn. Dydy’r unigolyn hwn ddim yn cynrychioli gwerthoedd y clwb pêl droed a’n cefnogwyr ni, sy’n parhau i’n dilyn ni mewn gemau cartref ac i ffwrdd ac yn cefnogi’r clwb yn y ffordd orau.
"Mae hyn yn ein atgoffa ni eto na fydd ymddygiad afreolus yn cael ei oddef mewn gemau CCPD Wrecsam, boed gartref neu i ffwrdd. Bydd unrhyw un sy’n ymddwyn yn annerbyniol yn cael eu delio yn y ffordd fwyaf llym."