Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llongyfarchiadau i'r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman ar ei 12 mis cyntaf yn y swydd.
Er mwyn nodi'r pen-blwydd, 'da ni wedi rhannu rhai o'i huchafbwyntiau hi drwy'r flwyddyn.
Ar ôl ffarwelio hefo Heddlu Gwent fel Dirprwy Brif Gwnstabl ym mis Hydref, ymunodd y PG Blakeman hefo Heddlu Gogledd Cymru fel y Prif Gwnstabl ar 31 Hydref 2022 – y ferch gyntaf i wasanaethu pobl Gogledd Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi ymweld â phob maes o'r heddlu, gan gyfarfod swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ym mhob adran, ynghyd â ffigyrau cymunedol allweddol ac asiantaethau partner.
Mae uchafbwyntiau eraill wedi cynnwys lansio a chyflwyno'r fenter atal trosedd 'Dangos y Drws i Drosedd' i drigolion a busnesau yng nghefn gwlad ac mewn trefi. Mae hyn er mwyn lleihau trosedd, a dal ac euogfarnu troseddwyr sy'n cyflawni byrgleriaeth, lladradau a throseddau cerbydau.
Yn ystod ei chyfnod hi fel Prif Gwnstabl, mae Gogledd Cymru wedi gweld gostyngiad o 11.3% mewn cyfanswm troseddau a gofnodwyd – y gostyngiad mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cymharu hefo cynnydd cenedlaethol o 2.2%. Mae'r rhanbarth hefyd wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn trais yn erbyn pobl yn y DU, ac mae hefo'r 10fed cyfradd isaf o fyrgleriaethau mewn cartrefi yn genedlaethol, hefo gostyngiad llawer gwell ar gyfartaledd o un flwyddyn i'r llall.
Wythnos diwethaf, fe wnaeth hi hefyd dderbyn Medal Plismona'r Brenin am Wasanaeth Disglair ym Mhalas Buckingham.
Wrth adlewyrchu ar ei blwyddyn gyntaf, dywedodd y PG Blakeman: "Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyntaf wych yma yng Ngogledd Cymru.
"Dwi wir wedi mwynhau mynd allan a chyfarfod llawer o'r staff a'r adrannau ‘sgyno ni ar draws Gogledd Cymru. Mae wedi rhoi cyfle go iawn i mi weld y berthynas sydd gan ein staff ni hefo'n cymunedau lleol a faint maen nhw'n poeni – a faint maen nhw eisiau pethau wella yn ein cymunedau ni.
"Dwi wedi bod yn hynod falch o arwain sefydliad o weithwyr proffesiynol ymroddedig sy’n rhoi cymaint o amser ac ymdrech er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael pobl ger bron y llysoedd sy’n gwneud y pethau anghywir. ‘Da ni’n gwarchod ein cymunedau ni rhag y rheini sy’n ceisio eu rheoli nhw, sy’n ceisio codi ofn.
"Dros y 12 mis nesaf, dwi am ganolbwyntio’n benodol ar ein cymunedau lleol ni, ac wrth, gwrs parhau ar fy nhaith o ddysgu Cymraeg – dwi'n edrych ymlaen."