Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae perchnogion CP Wrecsam Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn disgwyl llwyddiant yn dilyn rhodd hael gan Rhingyll Heddlu CP Wrecsam, Dave Smith tuag at gêm elusen sydd ar y gweill.
Rhoddodd y sêr Hollywod £5,000 drwy dudalen JustGiving a luniwyd gan Rhingyll Smith i godi arian tuag at ward plant Ysbyty Wrecsam Maelor, yr elusen a ddewiswyd ar gyfer y gêm i godi arian rhwng FC United o Wrecsam ar 1 Gorffennaf.
Clywodd y ddau am y gêm yn gynharach yr wythnos hon wedi i Ringyll Smith anfon neges at seren Deadpool ar Twitter.
Dywedodd: “Mae Ryan wedi bod yn dilyn ein tudalen bêl-droed ar Twitter am beth amser. Mae'n 'licio' ambell neges o bryd i'w gilydd, felly anfonais neges ato a gofyn iddo gefnogi'r apêl.
"Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan atebodd, ro'n i wedi fy syfrdanu."
Mewn ymateb i neges Rhingyll Smith, dywedodd Ryan: ‘Hi Dave. Not sure which of these great clubs I’m supporting most. Happy to have made a donation on behalf of Rob and I. We expect a hattrick.’
O ganlyniad i dderbyn y rhodd o £5,000 mae Rhingyll Smith wedi cyrraedd ei darged mewn ychydig o wythnosau ar ôl lansio'r dudalen a nawr mae wedi dyblu'r targed yn y gobaith o gefnogi'r elusen ymhellach.
“Mae fy nheulu wedi defnyddio'r ward nifer o weithiau yn y gorffennol ac wedi profi'r gwaith ardderchog sy'n digwydd yno, mae'r gofal arbenigol a'r staff yn ffantastig," ychwanegodd.
“Bydd yr arian yn helpu gyda offer oncoleg newydd ar gyfer y ward. Rwyf wedi cael triniaeth cancr fy hun a dw i'n gwybod pa mor anodd gall hyn fod. Mae gorfod meddwl am blant yn mynd drwy rywbeth tebyg yn erchyll ac yn dorcalonnus.
“Bydd o hefyd yn helpu gyda phethau ychwanegol - mawr a bach - sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ddarparu, gan wneud gwahaniaeth mawr i gleifion lleol a'u teuluoedd pan fydd angen arnynt.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Rob a Ryan am eu rhodd - nid yn unig maent yn cael effaith fawr ar bêl-droed yn lleol, ond maent hefyd yn buddsoddi yn y gymuned ac yn newid bywydau pobl. Bydd pob ceiniog yn gwneud newid positif i fywydau cymaint o blant yn yr ardal."
Ffurfiodd CP Heddlu Wrecsam tua diwedd 2021, sy'n cynnwys swyddogion oddi ar ddyletswydd o bob adran ar draws yr heddlu, mewn ymgais i greu cysylltiadau cryfach o fewn y gymuned a chodi arian ar gyfer achosion lleol ac elusennau.
Ychwanegodd: “Rwyf am barhau i chwalu ffiniau a'r camdybiaethau yn ymwneud â'r heddlu. Rydym eisiau adeiladu pontydd gyda'n cymuned, fel y gallwn greu ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.
"Bydd y sgôr ar y diwrnod yn amherthnasol. Nod y gêm yw creu cyfeillgarwch er mwyn chwalu unrhyw gamdybiaethau ynglŷn â'r heddlu sydd gan y rhai yn chwarae yn ein herbyn ni.
“Y tu ôl i'r iwnifform, rydym ni yn union fel pawb arall.”
Bydd y ddau ochr yn wynebu ei gilydd ar ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf yn Bronwen's Green, Wrecsam gyda'r gêm yn dechrau am 10.30am.
I roi, ewch i'r dudalen JustGiving yma - Wrexham Police FC is fundraising for Awyr Las Gogledd Cymru - Blue Sky North Wales (justgiving.com)