Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn atgoffa modurwyr i gymryd gofal ychwanegol ar y ffyrdd yn dilyn cyfres o wrthdrawiadau traffig ffordd difrifol yn ddiweddar ar ffyrdd ledled y rhanbarth.
Roedd chwe gwrthdrawiad difrifol dros y penwythnos - gyda phedwar yn cynnwys beicwyr modur. Yn anffodus, mae tri allan o'r pedwar beiciwr modur gydag anafiadau sydd o bosib yn mynd i newid bywyd a bygwth bywyd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Wasanaethau Cymorth Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru: "Yn dilyn penwythnos prysur arall, bydd ein gorfodaeth yn canolbwyntio ar leihau damweiniau a gwrthdrawiadau eraill drwy fabwysiadu ymdriniaeth dim goddef.
"Rydym wedi ymroi cadw pobl yn ddiogel ar ffyrdd Gogledd Cymru – rydym eisiau iddynt fwynhau'r ffyrdd ond fwyaf oll, rydym eisiau iddynt feicio a gyrru'n ddiogel a chyfrifol.
"Tra mae'r mwyafrif helaeth o fodurwyr yn beicio neu'n gyrru'n briodol, fe wnawn barhau i ganolbwyntio, gan feddwl erlyn, pawb sy'n beicio neu'n gyrru'n beryglus, yn gyrru ar gyflymder mawr, yn goddiweddyd ar linellau gwyn parhaus neu'n cyflawni unrhyw droseddau ffyrdd eraill.
"Ni allwn roi sylw'n benodol i'r gwrthdrawiadau eu hunain. Ond buasem yn hoffi sicrhau'r cyhoedd y bydd ymchwiliad trwyadl yn cael ei gynnal i bob un gwrthdrawiad ac mae ein hymholiadau bellach ar y gweill.
"Fel heddlu, rydym eisiau osgoi niwed ac anaf ac eisiau gadael i bawb fwynhau ffyrdd Gogledd Cymru wrth iddynt brysuro a chael eu defnyddio gan wahanol fathau o ddefnyddwyr.
"Mae ein patrolau cynyddol – gan ddefnyddio cerbydau amlwg a phlaen - yn golygu fod swyddogion yn gweithio ddydd a nos er mwyn cadw'r ffyrdd yn ddiogel. Bydd ein hymgyrchoedd diogelwch ffyrdd yn parhau gyda'r prif nod o geisio lleihau'r nifer o wrthdrawiadau angheuol a difrifol ar ffyrdd Gogledd Cymru. Rydym yn llwyr ymwybodol am bryderon gan drigolion. Felly fe wnawn hefyd geisio targedu'r lleiafrif sy'n peryglu bywydau drwy eu gweithrediadau afresymol.
"Mae diogelwch ffyrdd yn gyfrifoldeb i ni gyd - boed fel gyrrwr, beiciwr modur, seiclwr neu gerddwr. Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ofyn i bawb gymryd gofal ychwanegol pan allan ar y ffyrdd, i feddwl am eu hymddygiad a pha newidiadau allent ei wneud er mwyn gwella eu diogelwch eu hunain a defnyddwyr eraill y ffyrdd."
Mae ymgyrch flynyddol Heddlu Gogledd Cymru – sef Ymgyrch Darwen sydd â'r nod o leihau'r risg o farwolaethau ac anafiadau difrifol ar y ffyrdd yn gysylltiedig â beiciau modur - bellach ar y gweill.
Dros y misoedd nesaf, bydd swyddogion o'r Uned Plismona Ffyrdd, yr Uned Cynghrair Arfog, Uned Diogelwch Ffyrdd yr Heddlu Gwirfoddol a GanBwyll yn sgwrsio gyda beicwyr modur mewn mannau cyfarfod poblogaidd i selogion ynghyd ag ar ffyrdd penodol fel rhan o'r ymgyrch.
Mae beicwyr modur ymysg y defnyddwyr ffyrdd mwyaf bregus. Maent mewn mwy o berygl o anaf a gwrthdrawiad na defnyddwyr eraill y ffyrdd. Er nad y beiciwr modur sydd ar fai, mae'r ffaith eu bod yn agored i niwed yn amlach na pheidio yn golygu eu bod yn dioddef anafiadau mwy difrifol mewn gwrthdrawiad.
Yn 2021 cafodd 72 o feicwyr modur eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Ngogledd Cymru. Roedd hyn yn gynnydd o 2.85% o'r flwyddyn flaenorol sef 2020. Lladdwyd 7 o feicwyr modur (cynnydd o 40% o'r flwyddyn flaenorol).
Mae damweiniau beiciau modur yn amlwg iawn ac ar gyfartaledd, maent yn cynrychioli 25% o bawb a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol yn y rhanbarth yn y 3 blynedd diwethaf.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Mullen-Hurst: "Rydym yn edrych ar bob modurwr fel rhan o Ymgyrch Darwen. Fodd bynnag, yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, canolbwyntir yn gynyddol ar ddiogelwch beiciau modur wrth i fwy o feicwyr modur fynd â'u beiciau allan i fwynhau'r tywydd braf a golygfeydd godidog gogledd Cymru.
"Fel y cyfryw, mae modurwyr yn cael eu hannog i fod yn fwy gwyliadwrus am feiciau modur yn ystod eu teithiau a sicrhau eu bod yn rhoi digon o le wrth ddilyn beicwyr.
"Yn yr un modd, atgoffir gyrwyr i barhau i wirio am feiciau modur wrth adael cyffyrdd.
"Mae gan feicwyr rôl bwysig i'w chwarae gan sicrhau eu diogelwch eu hunain drwy deithio ar gyflymder priodol ar gyfer y ffordd, y tywydd a'r amodau traffig. Dylent wisgo dillad llachar, sicrhau eu bod yn beicio o fewn eu gallu a gwisgo helmed a dillad priodol eraill bob amser.
"Y tu ôl i bob damwain bydd teulu sy'n disgwyl i'r rhai sy'n gysylltiedig ddod adref. "Nid difetha hwyl pobl ydy diben yr ymgyrch hon. Mae'n annog beicwyr a gyrwyr i fod yn ddiogel a chyfrifol gyda'r nod o leihau'r nifer o wrthdrawiadau."
Anogir beicwyr modur i fynd ar wefan Cymru ar y Beic am wybodaeth ac arweiniad o ran cyrsiau, ffyrdd a chyngor ar ddiogelwch. Mae sawl gweithdy Beicio Diogel ledled Gogledd Cymru yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn. Gellir archebu drwy www.bikesafe.co.uk
Dilynwch y Tim Plismona Ffyrdd ar y cyfryngau cymdeithasol drwy @NWPRPU neu ddilyn yr hashnodau #YmDarwen a'r #5Angheuol.