Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ildiwyd dros 560 o gyllyll ledled Gogledd Cymru fel rhan o Ymgyrch Sceptre, wythnos genedlaethol o weithredu yn erbyn troseddau cyllyll.
Yn ogystal ag annog pobl i gael gwared ar eu cyllyll ac arfau eraill diangen yn ddiogel, roedd gweithgareddau eraill. Roedd y rhain yn cynnwys ymweld ag ysgolion a cholegau ledled y rhanbarth er mwyn amlygu risgiau a chanlyniadau cario cyllell i ddisgyblion a myfyrwyr, ymweld â mân-werthwyr a chasglu arfau.
Wedi'i chydlynu gan y Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu (CCPSH), roedd Ymgyrch Sceptre yn wythnos genedlaethol gweithredu a wnaeth redeg o 15 – 21 Mai. Daeth 43 heddlu a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ynghyd am gyfnod cydlynol dwys er mwyn ymdrin â throsedd cyllyll sy'n gyfrannwr mawr i drosedd treisgar yn y DU.
Roedd yr wythnos yn llwyddiant mawr. Casglwyd 562 o gyllyll ac eitemau llafnog o finiau ildio cyllyll a rhai canolfannau ailgylchu ledled Gogledd Cymru lle gwnaeth pobl gael gwared ar gyllyll a llafnau'n ddiogel.
Arestiwyd 5 o bobl hefyd fel rhan o'r ymgyrch. Cafwyd 89 o wersi ymgysylltu mewn ysgolion. Danfonwyd 48 o daflenni ac ymwelwyd â 18 o fân-werthwyr o ran gwerthu cyllyll. Cafodd 7 eu rhybuddio am beidio bod ag arwyddion priodol.
Dywedodd Alyn Smith, Rhingyll Diogelwch Cymunedol: "Mae Ymgyrch Sceptre yn amlygu ymrwymiad yr heddlu o weithio gyda'r cyhoedd a phartneriaid er mwyn atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais difrifol. Yr wythnos ddiwethaf gwelwyd heddluoedd yn ymgysylltu'n barhaus gydag ysgolion a chymunedau ledled y DU.
"Rhaid i bobl ifanc ddeall nad cario cyllell ydy'r ateb felly. Nid yw chwaith yn cynnig y warchodaeth maent yn feddwl y mae. Mae ond yn rhoi nhw mewn mwy o berygl."
Os oes gennych bryderon am rywun rydych yn eu hadnabod neu'n meddwl amdanynt, ac sy'n cario neu'n cuddio cyllell, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu'r wefan ymgyrch Byw Heb Ofn https://www.fearless.org/en/give-info. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.