Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Swyddogion yng Ngwynedd a Môn yn cynyddu patrolau yn dilyn adroddiadau o gynnau tanau yn fwriadol.
Mae hyn yn dilyn dau achos o gynnau tân bwriadol ym Mangor yr wythnos hon.
Yn yr achos cyntaf rhoddwyd llwyn eithin ar dân ar 23 Mai yn ardal Pen y Bryn ym Mangor. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddyfynnu’r cyfeirnod 23000439981.
Yn yr ail ddigwyddiad, fandaleiddiwyd adeilad yn ddifrifol gan greu difrod mawr y tu mewn ar Ffordd Caergybi, Bangor, ar 24 Mai. Credir i'r tân ddechrau rhwng 2-3pm. Dylai unrhyw un a fu'n dyst i weithgaredd amheus neu a welodd unrhyw un y tu mewn i'r adeilad gysylltu â ni gan ddyfynnu 23000443024.
Mae'r digwyddiadau yn dilyn adroddiadau pellach o gynnau tanau bwriadol ar draws Gwynedd ac Ynys Môn yn ystod y mis diwethaf.
Bydd swyddogion ar batrôl yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn ceisio atal mwy o danau ac i ddysgu pobl ifanc am beryglon cynnau tân yn fwriadol.
Mae arwyddion hefyd yn cael eu gosod yn yr ardaloedd hyn i rybuddio ac apelio am unrhyw wybodaeth am gynnau tân bwriadol.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am gynnau tân bwriadol, cysylltwch â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101 neu riportio yn ddienw drwy'r elusen annibynnol, Crime Stoppers.