Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyhoeddwyd Sir y Fflint llynedd fel wedi llwyddo yn y fenter Strydoedd Diogelach ddiweddaraf.
Mae'r prosiect yn rhaglen helaeth sy'n gweld penderfyniad i wneud strydoedd yr ardal hyd yn oed yn fwy diogel.
Mae'n elwa pawb sy'n ymweld, byw neu'n gweithio yn y sir.
Mae'r bedwaredd rownd o gyllid a roddir gan y Llywodraeth wedi'i anelu'n benodol at atal trais yn erbyn merched a genethod yn gyhoeddus, troseddau cymdogaethau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd hyn yn galluogi cyflwyno CCC a golau stryd ychwanegol, ynghyd â darparu patrolau ychwanegol i wneud ardaloedd yn fwy diogel a throseddau'n haws eu canfod.
Bydd y prosiect hefyd yn ehangu gwaith i newid agweddau ac ymddygiadau ac atal y troseddau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf, drwy bartneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Mae'r Gronfa Strydoedd Diogelach yn caniatáu heddluoedd ac awdurdodau lleol fuddsoddi mewn mentrau ymyrraeth trosedd trawsnewidiol, fel:
Nid oes esgus am unrhyw fath o gam-drin. Mae lleihau troseddau o'r pwys mwyaf a dyma pam rydym yn gweithio'n galed ar atal ac ymyrraeth gynnar yn Sir y Fflint, yn enwedig wrth atal trais yn erbyn merched a genethod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae gwerthuso'r Gronfa Strydoedd Diogelach yn dangos fod y buddsoddiad hwn yn gwneud cymunedau deimlo'n fwy diogel. Mae pobl mewn cymunedau sydd wedi cael CCC a golau stryd ychwanegol wedi'u gosod yn llai tebygol o boeni am gael eich mygio neu'ch lladrata.
I wybod mwy am y Gronfa Strydoedd Diogelach, ewch ar:
https://www.gov.uk/government/news/safer-streets-fund-is-building-confidence-in-the-police