Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn annog trigolion gogledd Cymru i ddiogelu eu hunain yn erbyn twyll cludo.
Rydym wedi gweld cynnydd diweddar mewn twyll cludo lle mae pobl fregus wedi cael colli eu harian a gwybodaeth bersonol. Fel arfer, yr henoed sy'n dioddef fwyaf o dwyll cludo.
Yn yr achos diweddaraf, mi wnaeth y twyllwr ffonio'r dioddefwr gan honni eu bod yn dod o'r banc. Mae dioddefwyr yn cael eu cynghori bod eu cerdyn banc wedi cael ei ddefnyddio yn anghyfreithlon a bod cyfrif banc y dioddefwr mewn peryg.
Mae dioddefwyr wedi cael eu twyllo i ddatgelu eu manylion PIN a cherdyn debyd. Mae sgiamwyr naill ai yn anfon cludwyr i gasglu cardiau banc o gyfeiriad y dioddefwyr neu fod y dioddefwyr wedi cael cyfarwyddid i lapio eu cerdyn banc mewn ffoil a'i anfon drwy'r post.
Wedi i'r sgiamwyr gael cerdyn y dioddefwr a'r PIN, maent yn gwario eu harian ar drosglwyddiadau mawr a thynnu arian parod allan o’r peiriant twll yn y wal.
Dywedodd y Swyddog Diogelu Rhag Camddefnyddio Ariannol, Ditectif Michelle Shirley: "Gall twyll negeseuwyr fod yn anodd ei weld, yn enwedig os ydych yn cael eich rhoi o dan bwysau ac ein bod yn siarad â swyddog banc mewn sefyllfa o argyfwng.
"Mae twyllwyr yn gallu dynwared rhifau ffôn gan roi'r argraff mai eich banc sy'n cysylltu â chi, ac mae'n bosib eu bod yn gwybod pethau personol amdanoch, a dyna sut maent yn eich argyhoeddi chi i ymddiried ynddynt.
"Mae'n bwysig cofio mai chi sydd biau eich cerdyn debyd a chredyd ac ni ddylech ei roi i neb arall.
"Os yw rhywun yn dweud bod angen ei gasglu gan negesydd neu os yw rhywun yn gofyn i chi ei anfon drwy'r post, mwy na thebyg twyll ydyw a dylech orffen yr alwad ar unwaith."
Ni fydd eich banc byth yn gofyn i chi am eich PIN llawn neu eich cyfrinair, nac yn anfon rhywun i'ch cartref i gasglu arian, PIN, cardiau neu lyfrau siec.
Am fwy o wybodaeth a help neu os ydych am riportio hwn a mathau eraill o dwyll, ewch at Action Fraud - y ganolfan riportio twyll a seibrdrosedd cenedlaethol neu gallwch ei riportio yn uniongyrchol i Heddlu Gogledd Cymru.