Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd 11 o arestiadau fel rhan o Ymgyrch Crossbow – diwrnod o weithredu ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Swydd Gaer a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ymdrin â throseddoldeb trawsffiniol.
Gwelodd yr ymgyrch amlwg iawn ledled Wrecsam, Sir y Fflint a Chaer ar ddydd Mercher, 8 Mawrth dros 200 o swyddogion o'r tri heddlu yn aflonyddu troseddwyr gan ddefnyddio prif ffyrdd y ffin.
Yn dilyn sesiwn friffio yng Nghlwb Pêl Droed Caer, aeth confoi o gerbydau heddlu yn llu dros Bont Sir y Fflint, cyn mynd i leoliadau allweddol er mwyn targedu troseddwyr gan ddefnyddio prif ffyrdd y ffin.
Cymerodd llawer safleoedd strategol, tra gwnaeth eraill sicrhau bod cerbydau a oedd yn gysylltiedig neu'n gweithredu ar y ffyrdd yn anghyfreithlon yn cael eu stopio a'u chwilio, gyda chamerâu Adnabod Platiau Rhif Awtomatig yn cael eu defnyddio er mwyn atal cerbydau hysbys i'r heddlu.
Tra roedd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig allan yn monitro gorsafoedd rheilffordd, roedd sawl gwarant yn cael ei gweithredu hefyd ledled ardaloedd yr heddlu o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio'n benodol ar weithgarwch Llinellau Cyffuriau lle mae camfanteisio ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn digwydd.
Ar y cyfan, arweiniodd yr ymgyrch at:
Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Heddlu Gogledd Cymru: "Drwy gyfuno adnoddau, cudd-wybodaeth a phwerau gorfodi ar gyfer y diwrnod hwn, llwyddwyd i gyflawni ein prif amcan sef gweithio yn agos gyda'n cydweithwyr yn Heddlu Swydd Gaer a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig er mwyn aflonyddu ar droseddwyr sy'n dibynnu ar y rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd er mwyn cyflawni troseddau.
"Mae troseddu yn niweidio ein cymunedau ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i erlyn y rhai sy'n achosi'r anhrefn a'r dioddef.
"Gobeithio bod y canlyniadau hyn yn rhoi neges glir i'r rhai hynny sy'n rhan o droseddau trefnedig sy'n defnyddio ein ffyrdd a'n rheilffyrdd i droseddu gan ddangos nad oes croeso iddynt ac y byddant yn cael eu herlyn."