Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:27 06/03/2023
Cafodd beicwyr modur oddi ar y ffordd eu targedu gan swyddogion yn ardal Glyn Ceiriog dros y penwythnos yn dilyn adroddiadau am feiciau'n cael eu beicio'n beryglus ac yn anghyfreithlon.
Bu Ymgyrch Blue Takeoff, sy'n ymdrin â defnydd anghyfreithlon beiciau oddi ar y ffordd, ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth a dydd Sul, 5 Mawrth.
Bu swyddogion Wrecsam Wledig yn gweithio gyda'r Tîm Rhwystro, yr Uned Dronau, y tîm beiciau modur oddi ar y ffordd a'r cyngor lleol er mwyn ymdrin ag adroddiadau cynyddol o feicio anghymdeithasol yn y dyffryn.
Fe ddaw hyn oherwydd bod diffyg cynnal a chadw ar ffyrdd yn yr ardal dros y blynyddoedd wedi creu amodau perffaith ar gyfer beiciau modur oddi ar y ffordd. Maent wedi cael eu defnyddio fel llwybr sgramblo, yn benodol ffordd sydd wedi'i chyfyngu dros dro i draffig gan y cyngor o Lanarmon Dyffryn Ceiriog i Ben Bwlch Llandrillo.
O ganlyniad, mae rhai trigolion wedi hysbysu nad ydynt bellach yn teimlo'n ddiogel yn cerdded, marchogaeth neu'n beicio yn yr ardal.
Defnyddiwyd drôn a oedd yn anweledig i'r rhai hynny ar y ddaear fel rhan o'r ymgyrch er mwyn targedu'r rhai hynny a oedd yn gyrru'n beryglus ac unrhyw droseddwyr a oedd yn beicio heb MOT, yswiriant neu drwydded ddilys.
I gyd, gwnaeth swyddogion:
Dywedodd SCCH Gareth Jones: "Ers cyfnod maith, mae Dyffryn Ceiriog wedi cael problemau gyda gyrru gwrthgymdeithasol, gyda beiciau llwybr a cherbydau gyriant pedair olwyn yn cael eu defnyddio ar hyd y llwybrau yn yr ardal.
"Mae wedi achosi llawer o aflonyddwch i bobl leol a thwristiaid, a dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r nifer o achosion hysbys yn yr ardal wedi bod yn cynyddu.
"Rydym yn patrolio'r ardal ac yn ymgysylltu gyda'r gymuned gorau gallwn. Ond wrth gwrs, mae'n amhosibl bod yno ddydd a nos, yn enwedig o ystyried natur anghysbell y digwyddiadau hyn.
"Roedd Ymgyrch Takeoff yn gyfle gwych i ni ymgysylltu gyda nifer o grwpiau trefnedig cyfreithlon. Mae hyn er mwyn egluro pryderon trigolion ac amlygu rhwystro'r fforddolion. Gwnaethom hefyd stopio a chwilio 20 o feiciau oddi ar y ffordd. Rwyf yn falch o hysbysu fod pob un heb broblem.
"Rydym yn annog unrhyw un sy'n gweld gyrru gwrthgymdeithasol yn yr ardal i hysbysu swyddogion ar 101, neu drwy'r sgwrs we."
Dywedodd Matt Subacchi, Arolygydd Wrecsam Wledig: “Mae Gareth wedi bod yn swyddog gwych i ardal Glyn Ceiriog, a hebddo, ni fyddem wedi gallu cynnal yr ymgyrch hon.
Rydym yn parhau i ofyn am wybodaeth ac adroddiadau gan y cyhoedd er mwyn sicrhau fod gennym y wybodaeth ddiweddaraf, disgrifiadau a lleoliadau mae beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio ac yn achosi niwsans. Bydd hefyd yn ein galluogi ni i gynnal ymgyrchoedd pellach fel hyn.
"Mae'r rhai hynny sy'n mynd ar feiciau modur mewn modd anghymdeithasol ac yn groes i'r rheolau yn cael eu hymdrin yn gadarn."