Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Targedwyd troseddwyr trawsffiniol yn teithio rhwng Gogledd Cymru a Swydd Gaer heddiw fel rhan o Ymgyrch Crossbow.
Gwelodd y diwrnod gweithredu amlwg iawn Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Swydd Gaer yn uno gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gan leoli dros 200 o swyddogion ledled Sir y Fflint, Wrecsam a Chaer mewn ymgais i aflonyddu ar droseddwyr sy'n defnyddio prif ffyrdd y ffin.
Gwnaeth swyddogion batrolio a monitro gorsafoedd rheilffordd ledled Sir y Fflint. Yn gynharach yn y diwrnod, gwnaeth Heddluoedd Gogledd Cymru a Swydd Gaer weithredu nifer o warantau yn ardal Sir y Fflint o ran troseddau cyffuriau lle atafaelwyd beic modur a oedd wedi cael ei ddwyn, arfau, cyffuriau a ffon symudol.
Gwnaed archwiliadau stopio a chwilio ar sawl cerbyd a amheuwyd o fod yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol ac yn gweithredu ar y ffyrdd yn anghyfreithlon. Defnyddiwyd camerâu Adnabod Platiau Rhif Awtomatig er mwyn rhwystro cerbydau hysbys i'r heddlu.
Gwnaeth partneriaid gan gynnwys swyddogion trwyddedu Cyngor Sir y Fflint gynorthwyo'r ymgyrch dryw ymuno gyda swyddogion er mwyn targedu tacsis ledled y sir mewn ardaloedd agored i droseddoldeb llinellau cyffuriau. Gwnaeth yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (DVSA) gynnal gwiriadau cerbydau ar ochr ffyrdd ar yr A494 a'r A483.
Lleolwyd swyddogion gorfodi mewnfudo er mwyn cydweithredu gyda swyddogion lleol er mwyn targedu eiddo a amheuir o fod yn gysylltiedig gyda gweithgarwch troseddol, tra roedd swyddogion Safonau Masnach yn siroedd Wrecsam a'r Fflint allan yn ymdrin â throseddau carreg drws, yn cynnig cyngor i drigolion ar sut i ddiogelu eu hunain rhag camfanteisio.
Cynorthwyodd Ymgynghorwyr Chwilio'r Heddlu (POLSA) fyfyrwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy er mwyn cynnal chwiliadau cyllyll mewn pedwar parc lleol fel rhan o brosiect plismona cymunedol. Roedd unedau chwilio tanddwr wrth law drwy gydol y dydd.
Roedd swyddogion benywaidd mewn dillad plaen hefyd allan yn cerdded llwybrau a ddefnyddid gan ddisgyblion ysgolion uwchradd o fewn Sir y Fflint. Roedd hyn fel rhan o weithgarwch plismona ataliol, gyda'r nod o aflonyddu ymddygiad rheibus gwrthgymdeithasol a nodi unrhyw un yn rhoi sylw diangen i ddisgyblion ysgol.
Gwelodd y diwrnod hefyd swyddogion yn gwahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda beiciau heddlu oddi ar y ffordd Gogledd Cymru a Swydd Gaer yn targedu llwybrau hysbys a ddefnyddir gan feiciau oddi ar y ffordd ar gyfer cyflenwi cyffuriau trawsffiniol. Gwaharddwyd beicio anghymdeithasol hefyd, gyda chymorth gan y tîm dronau.
Ar ben hyn, patrolwyd y ffordd arfordirol sef yr A548 gan feiciau wedi'u marcio, yn chwilio am droseddau'r 5 Angheuol cyn targedu beiciau modur yn a thu allan i Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy – ardal broblemus hysbys am wrthdrawiadau anafiadau difrifol.
Cynorthwywyd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan dargedu iardiau sgrap metel, a gwirio trwyddedau cariwyr gwastraff.
Bwriad y presenoldeb amlwg iawn oedd anfon rhybudd cryf i unrhyw un yn gysylltiedig â throseddau difrifol a threfnedig.
Roedd yr ymgyrch yng Ngogledd Cymru wedi arwain at:
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Cyflawnodd y diwrnod gweithredu llwyddiannus hwn ei brif amcan o uno gyda chydweithwyr yn Heddlu Swydd Gaer a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig er mwyn aflonyddu troseddwyr sy'n dibynnu ar y rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd er mwyn croesi'r ffin rhwng Gogledd Cymru a Swydd Gaer er mwyn cyflawni troseddau.
"Gyda chyswllt cryf rhwng troseddau difrifol a threfnedig a'r defnydd anghyfreithlon o gerbydau, roedd yn hanfodol ein bod yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn targedu'r prif ffyrdd hyn. Mae hyn er mwyn aflonyddu ar droseddwyr sy'n gweithredu yn ein hardaloedd.
"Ni allwn danseilio effaith troseddau trawsffiniol ar ein cymunedau lleol. Mae gangiau Llinellau Cyffuriau'n camfanteisio ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau, gan gynnwys plant a phobl ifanc. "Maent yn cael eu dychryn, eu gorfodi, eu bygwth ac yn aml yn dioddef trais.
"Rydym wedi ymroi o hyd i weithio gyda heddluoedd cyfagos er mwyn ymlid troseddwyr. Gyda'n gilydd gwnawn barhau i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
"Rwyf yn gobeithio fod yr ymgyrch hon wedi tawelu meddwl trigolion y gwnawn yr oll a allwn er mwyn gwarchod y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu a thynnu'r rhai hynny sy'n troseddu oddi ar ein strydoedd."
Ychwanegodd y PGC Allsop: "Mae ymgyrchoedd o'r raddfa hon bob amser yn cael eu harwain gan ein swyddogion mwyaf sgilgar a dawnus. Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw, rwyf yn falch y cafodd yr ymgyrch fawr hon ei harwain gan ddau bennaeth aur sy'n ferched o Heddluoedd Gogledd Cymru a Swydd Gaer. Mae hyn ar ben dau Brif Arolygydd sy'n ferched o Heddlu Gogledd Cymru.
"Mae hyn ond yn un enghraifft o'r gwaith anhygoel mae ein swyddogion a staff benywaidd yn ei ymgymryd bob dydd ac mae'n dystiolaeth o'u gwaith caled ac ymroddiad i'w rolau."
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Sian Beck: "Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych yn amlygu'r gwaith sy'n mynd ymlaen er mwyn ymdrin â throseddoldeb trawsffiniol gyda'n cydweithwyr yn Heddlu Swydd Gaer, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a'n partneriaid lleol.
"Rwyf yn gobeithio bod neges glir wedi mynd allan nad ydy ein hymateb yn stopio pan rydym yn cyrraedd y ffin.
"Digwyddodd ystod o weithgareddau drwy gydol yr ymgyrch, gan weithredu cudd-wybodaeth cymunedol a mynd ati i blismona'r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd sydd wedi bod o fudd i Ogledd Cymru gyfan.
"Defnyddiwyd llu o dactegau hefyd er mwyn aflonyddu ar droseddwyr yn gweithredu yn ein hardal, yr ydym yn eu defnyddio'n rheolaidd fel rhan o'n plismona bob dydd er mwyn targedu'r rhai hynny sy'n achosi'r niwed mwyaf i'n cymunedau.
Os oes gennych bryderon am drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn eich cymdogaeth, rhowch wybod i ni drwy siarad gyda swyddog lleol, gan ddefnyddio ein gwefan sydd â chyswllt uniongyrchol at ein tîm plismona cymdogaethau lleol, neu drwy ein system Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yma – Hafan – Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Chris Armitt: "Mae Ymgyrch Crossbow yn ymateb ar y cyd er mwyn plismona ffiniau'r rhanbarth gan gynnwys y rhai hynny sy'n defnyddio rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd er mwyn cyflawni troseddoldeb ac anfon neges gref at unigolion sy'n gysylltiedig â throseddau difrifol a threfnedig.
"Yn ystod y diwrnod gweithredu hwn, rydym wedi dangos ein hymrwymiad parhaus i gymunedau Swydd Gaer a Gogledd Cymru a'n haddewid i wneud y rhanbarth yn amgylchfyd anghyfeillgar i droseddwyr weithredu ynddi.
"Mae'r ymgyrch hon yn estyniad o'r gwaith gwych rydym eisoes yn ei wneud rhwng heddluoedd bob dydd ac atal troseddwyr a all ddewis symud eu troseddoldeb i ardaloedd cyfagos eraill oherwydd yr aflonyddwch.
"Rydym yn gwybod bod cyswllt cryf rhwng y defnydd anghyfreithlon o gerbydau a throseddau difrifol a threfnedig. Dyna pam rydym yn cydweithredu gyda'n cydweithwyr yng Ngogledd Cymru a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig er mwyn targedu'r troseddwyr hyn wrth iddynt deithio ledled y rhanbarth.
"Ni wnawn beidio ymlid y rhai hynny sy'n bwriadu teithio i Swydd Gaer er mwyn cyflawni trosedd. Gwnawn barhau i wneud popeth a allwn er mwyn gwarchod y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethau. Mae'n atgyfnerthu'r neges nad oes croeso i'r rhai hynny sydd yn bwriadu achosi niwed yn Swydd Gaer."