Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, 8 Mawrth ydy Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Diwrnod er mwyn dathlu cyflawniadau diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd merched ledled y byd.
Y thema eleni ydy #CroesawuCydraddoldeb. Nod thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023 sef #CroesawuCydraddoldeb ydy cael y byd i siarad am pam nad ydy cyfleoedd cyfartal yn ddigon. Mae pobl yn dechrau o wahanol leoedd, felly mae cynhwysiant a pherthyn gwirioneddol angen cydraddoldeb.
Dyma rai o'n cydweithwyr benywaidd yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched:
"Fe wnawn herio stereoteipiau, gwahaniaethu a thuedd ar sail rhywedd." – Y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman
"Rwyf yn cefnogi datblygiad ein merched." – Yr Arolygydd Emma Prevete
"Fe wnawn amlygu gweithrediadau neu dybiaethau ar sail rhywedd." – Pennaeth Cymorth Gwyddonol, Dr Anya Hunt
"Gwnaf ddathlu cyflawniadau merched." – Y Swyddog Gwirfoddol Fran Pitton
"Gwnawn ffurfio amlygrwydd cadarnhaol merched." – Sophie Rousseau, Cynorthwyydd Personol i'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol
"Gwnaf gynnal meddylfryd cyfartal o ran rhywedd." – Yr Arolygydd Claire McGrady
"Rwyf yn falch o weithio mewn sefydliad gyda diwylliant gweithio cynhwysol" – Y Ditectif Brif Arolygydd Sarah Williams
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gyflogwr cynhwysol, sy'n gweithio'n galed i gynrychioli pob cymuned ledled Gogledd Cymru er mwyn sicrhau ymddiriedaeth a hyder yn y gwasanaeth.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dathlu amrywiaeth ac yn cydnabod cyflawniadau ein cydweithwyr benywaidd dros y blynyddoedd.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gyfle i ddathlu ein llwyddiannau ond hefyd yn gyfle i adlewyrchu a chydnabod bod mwy i'w wneud. Mae merched yn wynebu heriau o fewn y gweithle o hyd ynghyd â ledled cymdeithas yn ehangach.
"Rydym wedi gweld cynnydd gwych gyda datblygu gyrfa a recriwtio merched dros y blynyddoedd diwethaf. Gwnawn barhau i ychwanegu at ein llwyddiannau fel y gallwn greu gweithle cytbwys, amrywiol a chynhwysol i bawb."
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cofrestru ar gyfer y fenter HeForShe, gydag addewid i wella anghydraddoldebau rhywedd sy'n bodoli ar lefelau uwch o fewn plismona a pharhau i wrthsefyll cam-drin domestig a cham-drin rhywiol mewn cymdeithas.
Mae'r ymrwymiadau diweddaraf yn cynnwys:
Wedi'ch ysbrydoli o fod yn rhan o #TimHGC? Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth o rolau gweithredol a staff yr heddlu.
Er mwyn gwybod mwy am ein cyfleoedd gyrfaol gwych, ewch ar Gyrfaoedd | Heddlu Gogledd Cymru
Dilynwch #CroesawuCydraddoldeb ac #IWD2023 ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.