Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau o bobl eraill wedi cael eu harestio heddiw yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau mewn cymunedau gwledig yng Ngwynedd.
Daw hyn ar ôl i dri gael eu harestio ar ddydd Mercher, 22 Chwefror yn dilyn nifer o warantau yn Swydd Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr fel rhan o Ymgyrch Calafat.
Gwnaeth Uned Troseddau Trefnedig a Difrifol Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gorllewin Mersia arestio dau o ddynion y bore yma yn ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni byrgleriaeth.
Maent ill dau yn cael yn y ddalfa yn Telford, lle bydd yr heddlu yn eu holi nhw.
Daw Ymgyrch Calafat yn dilyn adroddiadau am ladradau peiriannau amaethyddol o werth mawr a beiciau pedair olwyn mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys Tywyn, Dolgellau a'r Bala ym mis Tachwedd llynedd.
Mae'r tri a gafodd eu harestio'r wythnos ddiwethaf wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yn disgwyl ymholiadau pellach.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Sidney: "Mae ein hymchwiliad i'r lladradau amaethyddol hyn yn parhau. Rwyf wedi ymroi i ymlid y rhai hynny sy'n achosi'r niwed ac effaith ariannol mwyaf mewn cymunedau gwledig."
Dylai unrhyw un sy'n amau unrhyw ymddygiad anarferol neu amheus yn eu hardal ein hysbysu ni mor fuan â phosibl ar 101, neu drwy'r wefan.