Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:42 13/03/2023
Mae SCCH Iona Beckmann wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf gydag asiantaethau partneriaeth yng nghymuned Amlwch.
Mae nawdd PACT wedi'i ddefnyddio i annog cyfathrebu rhwng pobl o bob oed, yn gweithio yn agos gyda Caru Amlwch a Chymdeithasau Tai.
Fel rhan o Falchder Cymuned Amlwch, trefnwyd te prynhawn ar gyfer y clybiau Heneiddio'n Dda a'r prosiectau Mannau Cynnes lle rhoddwyd gemau bwrdd i'r fenter gan Caru Amlwch.
Yn ychwanegol, rhoddwyd nawdd PACT i'r prosiectau mannau cynnes yn Hwb Cemaes a hefyd William Williams yn Amlwch.
Bydd y cyllid yn galluogi i deuluoedd a thrigolion hŷn ddod at ei gilydd a mwynhau noson o grefftau a phryd o fwyd cynnes.
Gyda phrosiect William Williams, bu pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Amlwch a grŵp lleol o sgowtiaid yn cynorthwyo mewn gweithgareddau yn ystod yr hanner tymor. Buont yn ymweld â chartrefi gofal ac yn cymryd rhan mewn canu a dawnsio gyda'r henoed. Cyflwynwyd blwch dementia yn rhodd i'r cartrefi gofal gan Caru Amlwch.
Dywedodd SCCH Iona Beckmann: “Hoffwn ddiolch i PACT am y gefnogaeth sydd wedi cael ei roi i wneud prosiectau cymunedol fel hyn yn bosib.
"Mae'r prosiectau mannau cynnes yn gyfle ardderchog i gwrdd â thrigolion, aros yn gynnes a rhannu bwyd. Mae hyn yn mynd i'r afael ag unigrwydd ac yn annog teimlad o falchder cymunedol.
“Hoffwn hefyd ddiolch i swyddogion Tai Ynys Môn sydd wedi gwneud llwyddiant o'r prosiectau."
Bydd SCCH Beckman yn mynd i'r prosiectau mannau cynnes sy'n parhau i redeg tan ddiwedd Mawrth.
Rydym yn parhau i gefnogi prosiectau sy'n anelu at wella'r gymuned ar gyfer pawb. Os oes gennych unrhyw broblemau, siaradwch â'ch SCCH lleol.
Cewch wybod mwy am PACT ar www.pactnorthwales.co.uk