Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y fenter yw gwella ein gwasanaeth i'r rhai sydd wedi dioddef troseddau casineb
Yr wythnos hon rydym yn lansio ein cynllun pencampwyr troseddau casineb ar draws Heddlu Gogledd Cymru. Nod y fenter yw gwella ein gwasanaeth i'r rhai sydd wedi dioddef troseddau casineb, yn ogystal â ymgysylltu fwy gyda chymunedau amrywiol.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Dros Dro Llinos Davies: "Mae'n hollol annerbyniol i dargedu neu gam-drin rhywun oherwydd eu hil, oed, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, anabledd, hunaniaeth drawsrywiol, neu unrhyw nodwedd arall wedi ei ddiogelu. Ni fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef. Mae'r ymrwymiad hwn yn dangos ymroddiad Heddlu Gogledd Cymru i wella ein gwasanaeth i ddioddefwyr, yn erlid y rhai sy'n gyfrifol, a sicrhau'r canlyniadau gorau i ddioddefwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y troseddau personol a dinistriol hyn.'
Dywedodd Rhingyll Elin Sion, sydd wedi bod yn cydlynu’r cynllun “Mae troseddau casineb yn gallu cael effaith andwyol ar les person, yn gorfforol ac yn feddyliol. Gall wneud i ddioddefwyr deimlo'n fregus, yn ynysig, yn ofnus a phryderus ac yn anniogel a gall effeithio'r gymuned gyfan. Rydym am i ddioddefwyr deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, a gwybod bod rhywun yno y gallant droi ato a fydd yn eu helpu i gael y gefnogaeth iawn. Bydd ein pencampwyr yn rhan allweddol o'r gwaith yr ydym yn gwneud i fynd i'r afael â throseddau casineb. Byddant yn cynnig arweiniad i'r rhai sydd mewn angen ac sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn cefnogaeth arbenigol. Mae'n rôl mor bwysig ac rwyf yn arbennig o falch o fod yn cyflwyno pencampwyr troseddau casineb yn Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd PC Rob Newton-Miller ar ran tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant "Mae rôl Pencampwyr Troseddau Casineb yn cynnig sicrwydd gwell i dystion a chefnogaeth leol i gyd-fynd â'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud. Mae'n bwysig gallu cynnig cefnogaeth well i ateb gofynion ein cymunedau, gan wneud pob ymdrech i wella'r ymddiriedaeth a hyder yn Heddlu Gogledd Cymru.'