Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol Rhwydwaith Heddlu LDHT+ Cymru ym Mangor yr wythnos ddiwethaf.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, daeth y digwyddiad â phedair cangen rhwydwaith staff cymorth LHDT+ Heddlu Cymru at ei gilydd. Trafodwyd cynnydd y rhwydwaith a blaenoriaethau arfaethedig y flwyddyn i ddod. Roedd yn gyfle gwych i aelodau a chynghreiriad y rhwydwaith LHDT+ ddysgu mwy am y rhwydwaith, datblygiad aelodau a chyfleoedd rhwydweithio.
Agorwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher 30 Mehefin gan y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman. Dilynwyd hyn gan sawl siaradwr gwadd o bedwar heddlu Cymru ynghyd â GISDA sy'n rhoi cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc fregus yng Ngwynedd. Canolbwyntiodd hefyd ar sawl maes penodol fel y diwylliant a brofir gan swyddogion a staff LHDT+ yng Nghymru a blaenoriaethau'r rhwydwaith at y dyfodol. Gwelwyd uchafbwyntiau o Gynhadledd LHDTIQ+ y Byd 2023 yn Awstralia.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyno Gwobr Rhagoriaeth Rhwydwaith Heddlu LDHT+ Cymru a aeth i'r SCCH Connor Freel o Heddlu Gogledd Cymru, sy'n gweithio yn ardal De Sir y Fflint. Ynghyd â'i rôl fel SCCH, mae Connor yn gwirfoddoli fel Cyswllt Cymorth Staff LHDT+ ac mae wedi bod yn hanfodol wrth gynorthwyo'r gymuned LHDT+ y tu mewn a thu allan i'r heddlu.
Fel swyddog trasryweddol, mae Connor yn treulio llawer o'i amser sbâr yn cydweithredu gyda'r gymuned er mwyn sefyll dros y bobl hynny sy'n cael eu niweidio ac yn profi gwahaniaethu. Ers ymuno â Heddlu Gogledd Cymru yn 2015, mae wedi gweithio'n galed er mwyn ymdrin â'r materion hyn drwy gynorthwyo hyfforddiant a datblygiad swyddogion a staff heddlu o ran cydraddoldeb a materion trawsryweddol yn benodol. Mae wedi cydweithio ar gynnwys hyfforddiant i swyddogion ynghylch ymdrin â dioddefwyr trosedd trawsryweddol. Mae wedi darlithio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam am gydraddoldeb, amrywiaeth ac agweddau cynhwysiant a chymdeithasol.
Dywedodd Connor: “Rwyf yn falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Rwydwaith Heddlu LDHT+ Cymru er mwyn hyrwyddo, cynorthwyo ac annog newidiadau cadarnhaol ar gyfer ein staff a swyddogion LDHT+ ledled heddluoedd yng Nghymru.
“Gyda'n gilydd, rydym yn ei defnyddio ein gwybodaeth, profiad ac angerdd er mwyn cymell newid i roi'r cyfle i'n staff fod y fersiwn gorau o'u hunain y gallent fod. Mae hyn yn troi'n sgiliau i'w rolau unigol er mwyn gwasanaethu'r cymunedau y gwnaethom ymuno â'r heddlu i'w gwarchod orau.
“Mae'n fraint gen i dderbyn y wobr hon. Rwyf yn ddiolchgar am gymorth, cyngor ac anogaeth fy nghydweithwyr gwych o fewn y rhwydwaith a'm teulu plismona ehangach. Heb hyn, ni fyddai'r cyfle hwn i godi ymwybyddiaeth yn bosibl."
Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "Mae'r gwerth mae Connor yn dod i blismona nid yn unig yn cynnwys y cyngor, arweiniad a'r cymorth mae'n ei roi i unigolion a'r sefydliad, ond mae ei natur fentrus ac ansawdd ei waith yn sefyll allan. Mae'n gaffaeliad gwirioneddol i'r Gwasanaeth Heddlu ac i Rwydwaith LHDT+ yr Heddlu. Mae'n haeddu'r gydnabyddiaeth hon o'i werth i'r rhwydwaith."
Dywedodd Julie Brierley, Pennaeth Dysgu a Datblygu a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru: "Mae'n fraint gen i fod yn Gyd-gadeirydd Rhwydwaith Heddlu LDHT+ Cymru am y 2 flynedd ddiwethaf a chydweithredu gyda'r Arolygydd Ian Roberts a chyd-gadeiryddion eraill er mwyn cynorthwyo aelodau'r rhwydwaith a'n cydweithwyr.
“Gyda'n gilydd, gallwn chwyddo lleisiau cydweithwyr LHDT+ a rhoi man diogel i wrando ar unrhyw syniadau a heriau ar gyfer creu amgylchfyd cynhwysol.
“Rwyf yn edrych ymlaen at y rhwydweithio parhaus ledled yr heddluoedd er mwyn cyfrannu tuag at ddod yn weithle cynhwysol i'n holl bobl."
Beth ydy Rhwydwaith LHDT+ Heddlu Cymru?
Mae Rhwydwaith LHDT+ Heddlu Cymru yn gymdeithas gymorth ar y cyd â Heddluoedd De Cymru, Gwent a Dyfed Powys. Perwyl y rhwydwaith ydy sicrhau fod gwasanaethau heddlu ac asiantaethau trosedd eraill yn hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i'n staff LHDT+ wrth weithio tuag at sefydliad sy'n adlewyrchu ein cymunedau amrywiol.
Nod y rhwydwaith ydy creu a rhannu arfer gorau, hyfforddiant a chyfleoedd am ddigwyddiadau ledled y wlad a herio sefydliadau ledled Cymru a'r DU i wella profiadau pobl LHDT+, gyda'n gilydd.
Ei brif nod ydy cyflawni amgylchfyd gweithio sy'n rhydd o wahaniaethu, aflonyddu a thargedu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar ffurf homoffobia, deuffobia a thrawsffobia. Rydym yn bwriadu cyflawni hyn drwy:
Cydnabyddir a chynorthwyir Rhwydwaith Heddlu LDHT+ Cymru gan brif swyddogion ledled Cymru. Fe'i llywodraethir gan gyfansoddiad, sy'n cyfarwyddo ei weithgarwch a'i gyfrifoldebau'n glir.
Gallwch ddal i fyny gyda hynt Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru drwy eu dilyn ar Twitter – @LGBTPoliceWales