Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
“Ydy’r ffordd wedi cau?”
“Dwi angen mynd ffordd ‘na”
“Mond lawr fana dwishio mynd”
“Lle dwi fod i fynd ta?”
Dyma rai o’r sylwadau rheolaidd i Swyddogion Heddlu pan mae defnyddwyr y ffyrdd yn cael eu hwynebu hefo arwyddion yn dweud bod y ffordd wedi cau.
Yn dilyn sawl gwrthdrawiad difrifol ac angheuol ar ffyrdd Gogledd Cymru dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer o fodurwyr yn parhau i yrru neu geisio gyrru heibio arwyddion sy’n dweud bod y ffordd wedi cau.
Bu’r digwyddiad mwyaf diweddar y penwythnos diwethaf ar safle gwrthdrawiad difrifol ar gyrion y Bala pan ddaeth Swyddog Heddlu wyneb yn wyneb â gyrrwr a oedd wedi anwybyddu arwydd. Esboniwyd iddo bod y ffordd wedi cau oherwydd gwrthdrawiad difrifol ac roedd y ffordd ar gau er mwyn rhoi mynediad i’r gwasanaethau brys. Dyma’r gyrrwr yn parhau i ddadlau hefo’r swyddog pam bod raid iddo fynd heibio, ac fe wnaeth hyd yn oed ofyn os bysai’n cael gyrru ar y gwair.
Bu gyrrwr arall a oedd yn tynnu carafán ar gefn ei gerbyd ddweud bod rhaid iddo basio ‘gan nad oedd yn gallu troi’r carafán rownd.’ Bu’r swyddogion yn ei gynorthwyo drwy ddadfachu ei garafán a’i droi er mwyn caniatáu iddo fynd ffordd wahanol. Derbyniodd y gyrrwr gyngor na ddylai efallai fod yn tynnu carafán os mai dim ond i un cyfeiriad oedd yn gallu mynd.
Dywedodd y Rhingyll Jason Diamond o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Mewn achosion o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol mae ffyrdd yn cael eu cau, traffig yn cael ei ddargyfeirio ac arwyddion yn cael eu gosod am reswm, nid er mwyn addurno’r ffordd,”
“Os mae’r ffyrdd ar gau, peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion. Efallai ei fod yn teimlo bod y ffordd ar gau yn anhwylustod ond mae derbyn hysbysiad o drosedd gyrru yn waeth.
“Rwyf yn erfyn ar bob defnyddiwr ffordd – boed yn yrrwr lori, gyrrwr car, beiciwr modur, seiclwyr neu gerddwyr i ufuddhau’r arwyddion sy’n dweud fod y ffordd wedi cau pan maent yn cael eu gosod gan ein cydweithwyr yn yr Adran Drafnidiaeth oherwydd gwrthdrawiad.
“Mae’r arwyddion wedi cael eu gosod yn gyfreithlon o dan Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1994, a’r prif fwriad ydy rhoi digonedd o rybudd fod y ffordd wedi cau.
“Fel arfer mae’r arwyddion yn cael eu gosod ar y lôn sy’n wynebu’r wrthdrawiad, ac nid yn gyffredinol ar draws y ddwy ffordd, gan fod y ffordd sy’n arwain o’r digwyddiad yn caniatáu’r traffig wneud hynny…sef symud oddi wrth y digwyddiad. Nid ydy dweud bod y conau ddim ar draws y ddwy ffordd yn esgus neu’n amddiffyniad i fethu â chydymffurfio gyda’r arwydd traffig (sydd hefyd yn gallu arwain at erlyniad).
“Rwyf yn deall ei bod hi’n rhwystredig pan mae’r gwasanaethau brys yn cau’r ffordd am gyfnodau hir. Fodd bynnag, dim ond mewn achosion o wrthdrawiadau difrifol mae hyn yn digwydd.
“Y prif ddiben ydy oherwydd yr argyfwng meddygol brys. Mae pob ymdrech yn cael ei rhoi er mwyn sicrhau fod unrhyw un sydd wedi anafu yn derbyn y gofal gorau, dim ots am ba hyd. Ar ôl hynny mae’r broses casglu tystiolaeth manwl yn digwydd, er mwyn darparu’r rhai sydd ynghlwm â’r digwyddiad a’u teuluoedd yn cael y gwasanaeth gorau o ran darganfod achos y gwrthdrawiad. Mae casglu’r cerbydau hefyd yn broses o gasglu tystiolaeth. Mae glanhau’r ffordd hefyd yn bwysig, er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel pan fydd y ffordd yn ail-agor.
“Mae gennym adnoddau cyfyngedig ar safleoedd gwrthdrawiadau. Nid oes gennym ddigon o Swyddogion Heddlu/Swyddogion Priffyrdd i sefyll ar ffordd sydd wedi cau er mwyn rhoi cyfarwyddiadau. Pan rydym yn wynebu defnyddwyr ffyrdd sydd wedi anwybyddu’r arwyddion, ac yn treulio amser yn esbonio am ba mor hir a’r ffyrdd eraill y gellir eu defnyddio, mae’n amharu ar ein prif amcanion ac yn achosi oedi cyn gallu ail-agor y ffordd.
Ychwanegodd y Rhingyll Diamond: “Mae’n gwbl annerbyniol cyrraedd y safle a gofyn os fydd ‘gwasgu heibio ar y gwair’ yn opsiwn. Mae hefyd yn gwbl annerbyniol bod fy nghydweithwyr a Swyddogion Priffyrdd yn derbyn sylwadau sarhaus.
“Yn y gobaith na fydd angen i chi boeni am hyn – ond meddyliwch os mai chi, neu aelod o’ch teulu sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad, a fyddai’n well gennych ein bod ni’n canolbwyntio ar ail-agor y ffordd neu ein bod ni’n gwneud ein gwaith mor ddiwyd ag sy’n bosib?
“Rwyf hefyd yn awgrymu’n garedig er ein bod yn yr unfed ganrif ar hunain, ac mae digonedd o dechnoleg ar gael, mae rhai o’n ardaloedd cefn gwlad hefo signal ffon symudol gwael, felly os ydych yn trefnu taith i ardal wledig, meddyliwch am gael map ar bapur wrth law a wnaiff gynorthwyo hefo chwilio am ffyrdd eraill.
“Yn anffodus rydym yn gweld llawer gormod o wrthdrawiadau ar ein ffyrdd, a’r ffordd orau i osgoi’r angen i gau’r ffyrdd ydy gofyn i ddefnyddwyr ffyrdd rannu’r ffordd yn gall a meddwl am bobl eraill drwy yrru/beicio’n ddiogel.
“Rwyf yn deall fod y rhan helaeth o ddefnyddwyr y ffyrdd yn cymryd sylw o’r arwyddion. Er fy mod yn ymddiheuro am yr oedi a’r dargyfeiriadau, rwyf hefyd yn diolch iddynt am eu cydweithrediad ac amynedd.”