Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon rydym yn ymuno â heddluoedd ledled y wlad er mwyn dathlu gwaith caled, ymroddiad a chadernid swyddogion ymateb.
Gan ddechrau heddiw (26 Mehefin), mae wythnos Plismona Ymateb yn cydnabod rôl hanfodol ein swyddogion ymateb sy'n cadw ein cymunedau'n ddiogel er mwyn gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag o'n y DU.
Mae rôl swyddog heddlu ymateb yn anrhagweladwy a heriol. Maent bob amser yn barod i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiad. Mae'r rhain yn cynnwys bod y cyntaf i ymateb i ddigwyddiad difrifol, tawelu sefyllfaoedd lle mae gwrthdaro neu gynorthwyo pobl fregus pan maent wedi dioddef trosedd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Llinos Davies: “Mae swyddogion ymateb yn chwarae rôl hanfodol wrth warchod a gwasanaethu ein cymunedau.
"Maent yn ymdrin yn rheolaidd â rhai o'r sefyllfaoedd mwyaf heriol mewn cymdeithas. Yn aml, nhw ydy'r cyntaf i ymateb i ddigwyddiad ac maent yn aml y cyswllt cyntaf a'r unig gyswllt y gwnaiff llawer o bobl ei gael erioed gyda'r heddlu.
"Diben Wythnos Plismona Ymateb ydy taflu goleuni ar y gwaith gwych a ymgymerwyd gan swyddogion ymateb ac amlygu'r sefyllfaoedd dyrys, heriol ac anrhagweladwy maent yn eu hwynebu bob dydd.
"Mae ond yn iawn fod ein swyddogion yn teimlo eu bod yn derbyn cymorth yn y gwaith maent yn ei wneud. Dyna pam byddwn hefyd yn amlygu'r cymorth lles sydd ar gael iddynt drwy'r Coleg Plismona ac Oscar Kilo.
"Mae'r gwaith mae ein Swyddogion Ymateb yn ei gyflawni yn amhrisiadwy, weithiau yn wyneb perygl mawr. Felly rwyf yn falch fod y rôl yn cael ei dathlu ledled y wlad ynghyd ag yma yng Ngogledd Cymru."
Cadwch lygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos lle byddwn yn taflu goleuni ar ein swyddogion ymateb gan ddefnyddio #WythnosPlismonaYmateb.