Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Enillodd tîm pêl-droed merched Heddlu Gogledd Cymru gêm elusennol yr wythnos hon.
Ar ddydd Mercher 21 Mehefin yn Ysgol y Grango yn Rhosllanerchrugog bu CP Merched HGC yn chwarae yn erbyn Tîm Pêl-droed Merched Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Roedd y gêm yn gyffrous gyda HGC yn mynd ar y blaen 1-0 yn y 30 eiliad cyntaf diolch i Dani cyn i Wasanaeth Tân sgorio 3 gôl. Bu sawl cic at y gôl gan y Gwasanaeth Tân ond mi wnaeth Ali achub pob un - daeth #15 o'r Gwasanaeth Tân allan o'r gôl gyda gwaith troedio gwych gan wneud hi’n fwy anodd i HGC!
Yn dilyn 2 gôl arall gan Em o HGC sgoriodd y Gwasanaeth Tân 2 gôl arall. Sgoriwyd y gôl i ennill gan Steph a oedd yn gampus!! Dyma gêm gyntaf y Gwasanaeth Tân - cafodd pawb eu synnu - roeddent yn griw gwych o ferched ac yn bleser i chwarae yn eu herbyn.
HGC - Sgorwyr y gôl:
Dani – 3 gôl
Em – 2 gôl
Steph – 1 gôl
Diolch o galon i Ringyll Tîm Plismona Cymdogaeth Wledig Wrecsam, Rhodri Ifans a fu'n dyfarnu'r gêm a PC Vinny Jones o Ffederasiwn yr Heddlu a ddaeth i gefnogi.
Roedd y gêm yn ddigwyddiad elusennol i helpu codi arian ar gyfer disgyblion Ysgol y Grango yn Rhosllanerchrugog i ddechrau eu tîm pêl-droed merched eu hunain. Gyda tharged o £500 maent eisoes wedi codi £330 tuag at yr achos.
Mae'r tîm yn derbyn rhoddion hyd at wythnos nesaf. Helpwch nhw i gyrraedd y targed yma - Fundraiser by Sophie Ho : Ysgol Y Grango Girl's Football Team (gofundme.com)