Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Enillodd tîm pêl droed dynion Heddlu Gogledd Cymru ei bencampwriaeth cynghrair genedlaethol am y tro cyntaf dros y penwythnos.
Ar ddydd Sul 4 Mehefin, fe wynebodd swyddogion oddi ar ddyletswydd HGC swyddogion o Heddlu Dyffryn Tafwys yng ngêm derfynol Cynghrair Bêl Droed y Gwasanaethau Brys yn Stadiwm Broadhurst Park FC United of Manchester.
Profodd ergyd gampus gan PC Toby Jones hanner ffordd drwy'r ail hanner yn dyngedfennol i HGC, a wnaeth selio buddugoliaeth 1-0 ar y diwrnod.
Dywedodd Adam Bailey, hyfforddwr HGC: "Cynghrair Gwasanaethau Brys y DU ydy'r gystadleuaeth fwyaf y gallem ei hennill. Mae'n cynnwys timau o'r gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth carchardai. Felly mae bod yn fuddugol yn y tymor cyntaf wnaethom ei chwarae yn orchest wych i bawb a gymerodd ran."
Mae tîm Gogledd Cymru bellach yn anelu ennill mwy o dlysau. Byddant yn wynebu Heddlu De Cymru yng ngêm derfynol Cwpan Heddluoedd Cymru'r wythnos nesaf.
Mae timau pêl droed yr heddlu, sydd hefyd yn cynnwys tîm merched, ymysg llawer sy'n derbyn cefnogaeth Cymdeithas Chwaraeon HGC.
Yn cael ei gynnal gan swyddogion a staff yr heddlu, mae pob gweithiwr HGC (yn gwasanaethu neu wedi ymddeol) yn gymwys i ymuno.
Mae manteision ymaelodi yn cynnwys:
Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn rôl gyda Heddlu Gogledd Cymru, ewch ar ein tudalen recriwtio er mwyn gweld ein swyddi gwag ar hyn o bryd.