Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus rhag gwneud galwadau brys ar ddamwain.
Yn dilyn cynnydd mewn 'galwadau 999 distaw' mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i wirio gosodiadau 'galwadau brys' ar eu ffonau symudol er mwyn osgoi galwadau diangen i Ganolfan Rheoli'r Heddlu.
Galwadau brys yw ‘galwadau 999 distaw’ lle nad oes neb yn siarad ac, o bosib wedi ei wneud ar ddamwain drwy 'ddeialu poced'. Gall y galwadau hyn gymryd tipyn o amser i staff gysylltu yn ôl â'r galwr er mwyn sicrhau nad oes angen help arnynt.
Dywedodd yr Arolygydd Jon Aspinall: "Mae'r nifer o alwadau 999 damweiniol wedi cynyddu yn sylweddol. Hoffwn annog pawb i wirio eu gosodiadau argyfwng ar eu ffonau symudol a'u newid er mwyn atal mwy o alwadau damweiniol i'r gwasanaethau brys.
Rydym yn gweithio'n agos gyda gwneuthurwyr ffonau symudol i ddatrys y broblem ond yn y cyfamser bydd newid eich gosodiadau yn sicrhau nad ydych yn galw 999 yn ddamweiniol. Os oes gennych unrhyw broblemau yn newid eich gosodiadau, cysylltwch â’ch darparwr rhwydwaith neu ewch ar y we i gael gwybod sut i newid y gosodiadau ar eich ffôn.
Ein blaenoriaeth yw rhoi gwasanaeth ar unwaith i rai mewn angen felly dilynwch yr arweiniad hwn a'i rannu gyda'ch teulu a'ch ffrindiau fel y gallwn roi'r gwasanaeth gorau posib i'r rhai mewn angen."
Dyma rhai awgrymiadau ar sut y gallwch leihau galwadau 999 damweiniol:
Os byddwch yn deialu 999 ar ddamwain, dywedwch wrth yr un sy'n ateb y ffôn mai camgymeriad ydyw ac nad ydych angen cymorth.