Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, mae troseddwr rhyw 30 oed wedi'u dedfrydu am 11 mlynedd am dreisio.
Gwnaeth David Sam Jones, o ddim cyfeiriad sefydlog, ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon heddiw ar ddydd Gwener 2 Mehefin ar ôl cyfaddef cyhuddiad o dreisio a fu yn Wrecsam ym mis Ionawr 2015.
Cafodd ddedfryd estynedig o 11 mlynedd, yn cynnwys saith mlynedd o garchar a chyfnod estynedig ar drwydded am bedair blynedd.
Cafodd Jones hefyd orchymyn atal am oes o ran ei ddioddefwr.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, Ditectif Gwnstabl Jennie Ribbons-Steen: "Mae troseddau Jones wedi rhychwantu sawl blwyddyn. Mae'n beryglus i gymdeithas, ac nid oes gen i amheuaeth y byddai wedi parhau i droseddu.
"Rwyf yn gobeithio bydd dedfryd heddiw yn dod â rhywfaint o gyfiawnder a chymod i'r dioddefwr. Gobeithio y bydd yn amlygu nad ydy amser byth yn rhwystr i ymchwilio trosedd a dod a rhywun o flaen eu gwell."
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl o dan Hyfforddiant Natalie Edwards: "Rwyf yn canmol y dewrder anhygoel mae'r dioddefwr wedi'i ddangos drwy gydol yr ymchwiliad cyfan. Mae codi llais yn erbyn troseddwr mor dreisgar yn dangos dewrder gwirioneddol.
"O gymryd y cam cyntaf mewn hysbysu'r drosedd hon am yr heddlu i fynd i'r llys, mae eu cryfder wedi bod yn anfesuradwy."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Hargrave o Dîm Amethyst Gogledd Cymru: "Rydym yn parhau yn ymroddedig i ddod â throseddwyr rhyw o flaen eu gwell. Buaswn yn annog unrhyw un sy'n dymuno hysbysu am drosedd rywiol i ddod ymlaen a siarad â ni.
"Mae'r tîm Amethyst yn cynnwys swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig er mwyn cynorthwyo dioddefwyr drwy'r ymchwiliad. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) er mwyn darparu cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol cyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth arbenigol."
Gallwch fynd ar ein gwefan yma am fwy o wybodaeth ar sut i geisio cymorth – Treisio, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu Gogledd Cymru