Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn cynyddu patrolau yn ardal Gogledd Gwynedd fel rhan o ymgyrch i dargedu llecynnau diweddar am fyrgleriaethau o safleoedd masnachol ac ymyrryd â cherbydau.
Daw'r ymgyrch wedi cyfres o ddigwyddiadau yn ardal Bangor a Chaernarfon lle hysbyswyd am sawl byrgleriaeth o safleoedd masnachol a sawl lladrad o gerbydau modur.
Mae ymchwiliadau wedi'u lansio i'r adroddiadau hyn ac mae ymholiadau'r heddlu ar y gweill.
Bydd swyddogion heddlu yn cynnal patrolau amlwg iawn bob nos a thros nos, gan gwmpasu llecynnau yng Nghaernarfon a Bangor, ynghyd â'r cyffiniau, gan roi tawelwch meddwl i drigolion a pherchnogion busnes.
Dywedodd y Rhingyll Cymorth Ardal Andy Davies: "Mae ymdrin a deall pryderon lleol yn flaenoriaeth i ni. Dyna pam rydym yn gweithio'n galed er mwyn ymchwilio adroddiadau diweddar o ladradau a byrgleriaethau.
"Bydd yr ymgyrch yn gweld cynnydd mewn patrolau amlwg ledled yr ardal yn yr wythnosau nesaf, er mwyn ymdrin â'r ymddygiad troseddol hwn, a rhoi tawelwch meddwl i'r bobl hynny sy'n byw a gweithio yn yr ardal.
"Bydd swyddogion hefyd yn siarad â thrigolion am gyngor atal trosedd, gan gynnwys eu hannog nhw i ddiogelu eu cerbydau dros nos a sicrhau y tynnir unrhyw eitemau gwerthfawr.
"Rydym yn diolch i'r gymuned am eu cymorth yn ystod yr ymgyrch hon. Buaswn yn annog unrhyw un i hysbysu'r heddlu am unrhyw ymddygiad amheus."
Dylai unrhyw un a fu'n dyst i unrhyw beth amheus, neu sydd â thystiolaeth ar gamer cerbyd neu CCC, neu unrhyw wybodaeth bellach, gysylltu â'r heddlu ar unwaith drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101.